Tudalen:Bywyd a gweithiau Azariah Shadrach.djvu/55

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yr oeddynt yn foddlon i Shadrach bregethu yn y dref pryd bynag y cawsai gyfleusdra, "ond idod gadw yn gyson yn Llanbadarn at eu hamser penodol hwy." Er dyfod i fyny â phob telerau, yr oedd Shadrach yn arferol o bregethu bedair gwaith ar y Sabboth, unwaith yn y mis, y blynyddau hyn. Yr oedd

y yn dyfod o Dalybont i Lanbadarn erbyn naw,-elai yn ei flaen i'r dref erbyn un-ar-ddeg,-dychwelai i Dalybont erbyn tri, ac elai yn ei flaen i'r Gareg, neu i Goedgruffydd, erbyn yr hwyr. Yr oedd Edward Mason yn parhau i gynal ei freichiau yn egniol gydag achos y dref; ond cyn diwedd y flwyddyn hon, bu y gwas ffyddlon hwn farw, ac erbyn hyn nid oedd neb yn aros i agor y " tŷ cwrdd" yn Aberystwyth ond dyn ieuanc o grydd, o'r enw Richard Hughes; ac yn fuan iawn, aeth hwnw a'i deulu i Liverpool. "Erbyn hyn," meddai Shadrach," nid oedd genyf un gwrryw proffesedig yn byw yn y dref; ac yr oedd pob peth yn ymddangos yn hynod ddigalon i mi, gyda golwg ar godi achos yn Aherystwyth." Ond os oedd pethau yn ddigalon, ni ddigalonwyd ef;-os oedd y gwynt yn wrthwynebus, "ni lwyr fwriwyd ef i lawr." Ha! nid yn awr y gwelodd Shadrach amgylchiadau digalon gyntaf.

Erbyn y flwyddyn 1819, yr oedd pethau yn dechreu gwisgo agwedd mwy llewyrchus; ac ar y 30ain o Fai yn y flwyddyn hon, cafodd Shadrach yr hyfrydwch o gorffori eglwys yma, a chafodd rhyw wraig, ac un o'r enw Abraham Evans, eu derbyn ar y pryd. Yr oedd rhyw nifer o aelodau Llanbadarn wedi rhoddi eu presenoldeb ar yr achlysur. Yr ydym yn deall mai milwr oedd yr Abraham Evans hwn yn ei ddyddiau boreuol; ac oblegyd hyny, ni ddylid disgwyl cymaint oddiwrtho, a phe bai wedi cael gwell manteision. Ond dywed Shadrach wrthym iddo fod yn ffyddlon iawn; ac heb fod yn hir daeth ereill i ymuno âg ef. Ac o ddiffyg un cymhwysach, fe allai, y gŵr hwn oedd yn arfer cyhoeddi i Shadrach; a chan nad pa enwogrwydd a enillodd iddo ei hun fel milwr cyn hyn, y mae yn ddiau genym, iddo enill llawer iawn rhagor o hono ar un stroke ryw dro wrth gyhoeddi.—Os ydym yn cofio yn gywir, fel hyn y dywedodd, "Mae y gwr dyeithr i fod yn y capel hwn heno am chwech, a Mr. Shadrach yn Nghlarach—a'r gloch yn llefaru." Go lew'r gloch! ond dylai lefaru o ran hyny, gan fod ganddi 'dafod'.?