Tudalen:Bywyd a gweithiau Azariah Shadrach.djvu/56

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Yn awr, dyma'r eglwys wedi cael ei ffurfio;-y peth nesaf ydyw cael capel. Yn y byd hwn, rhaid cael y plisgyn yn gystal a'r cnewullyn; ond gorchwyl annghyffredin ydyw adeiladu capel, a dim llun arno, lle byddo yr eglwys yn wan. Nid llawer o goed a cheryg ddaw at eu gilydd, hyd yn nod at gapel, ond trwy nerth arian. Ond pa fodd y mae cael arian yw y pwnc. Peth anhawdd yw hyn ar y goreu. Hyd yn nod pan fyddo arian i'w cael, y mae yn ddigon anhawdd eu cael allan o'r llochesau yn mha rai yr ymguddiant. Fel y mae arian dyn yn ei bwrs, fel hyny, lawer gwaith, y mae ei bwrs yn ei galon; mewn canlyniad, rhaid agor ei galon cyn y gellr cael gafael ar y trysor a guddiwyd ynddi: ac y mae pob un sydd yn gwybod tipyn am y peth yn brofiadol, yn gwybod mai un o'r pethau mwyaf anhawdd i'w agor o bob peth a berthyn i ddyn yw ei galon. Ond gorchwyl mwy anhawdd na hyny ydyw cael arian lle na byddont i'w cael; a dyna, ddarllenydd, ydoedd sefyllfa Shadrach yn bresenol.—Yr oedd arno eisieu arian, ond nid oedd arian i'w cael; ac yn ngwyneb hyn, nid ydym yn gweled fod ond un llwybr yn agored iddo, sef myned oddiamgylch i'w ceisio pa le bynag y tybiai y gallai gael gafael arnynt. Yr oedd ef ei hun yn gyfrifol am yr holl dreuliau; ac fel y byddai ganddo rywbeth i gyfarfod â hwynt, elai oddiamgylch i gasglu tra fyddai yr adeiladwyr yn gweithio, a gobeithiai, drwy gynildeb a dyfalwch, i allu casglu digon i dalu huriau y gweithwyr. Gan nad oedd neb yn gyfrifol am un ddimai ond efe, yr oedd o bwys ymgadw rhag dyledion; a chyda'r amcan hwn, teithiodd lawer drwy Gymru a Lloegr. Diau genym mai nid ychydig o groesau a gafodd yn y gwaith o gasglu. Mae yn ddiamheu fod trymder croesau yn ymddibynu cymaint ar ystâd neu deimlad yr enaid fyddo yn eu dwyn, ag ar yr hyn fyddo yn groesau iddo. Ond, a barnu teimladau pobl ereill oddiwrth ein heiddo ein hunain, gallem feddwl mai nid croesau ysgafn mo honynt, oedd y rhai cysylltiedig â hir deithiau casglyddol y tadau. Mae llawer o siarad genym am garchariadau a chyffion; ond erbyn y gwneir pob peth yn amlwg gan yr Hwn sydd yn fwybod am flinder ac ymynedd y saint, mae yn bosibl iawn yr ymddengys llawer o'r croesau casglyddol yn llawer mwy anhawdd eu dwyn na'r rhai hyny. Nid poenydiau corfforol