gyfiawnder o lais, a gwnaeth ddefnydd da o hono. Canodd dôn ar yr hen bennill godidog, "Yn y dyfroedd mawr a'r tonau," &c., gydag effaith annghyffredin. Cyffrowyd teimladau y ferch i'r fath raddau, fel y galwodd ar ei thad a'i mam i ddyfod rhag blaen i'r gegin, "am fod angel o'r nefoedd wedi dyfod yno." Ar gais y ferch, brysiasant yno, ac o ychydig i ychydig dechreuasant hoffi Shadrach; ac yn dra buan, gofynasant iddo a ddeuai ef ddim i'r parlour. Aeth yno ar eu cais; a pharhaodd yr ymddyddan rhyngddynt dro hir. Gofynent iddo am ei wraig-pa un a oedd hi byw ai peidio, ac am rifedi ac enwau ei blant. Gofynent iddo, hefyd, am achos crefydd yn Aberystwyth. O'r diwedd, wele wr y tŷ yn tynu nifer o bunoedd allan o'i boced, ac yn rhoddi iddo bum punt at y capel, punt iddo ei hun, a phunt yr un i'w bedwar plentyn-Eliacim a David, Johanna ac Efa. Nid sŵn heb sylwedd yn dilyn ydoedd y dôn yna, beth bynag, ddarllenydd.
Yr oedd yn dra chydwybodol wrth gasglu. Nid'yn unig yr oedd yn galw pa le bynag y gallai, ond yr oedd yn arfer cynildeb, ïe, hyd at wasgu ei hunan, yn ei dreuliau personol. Fel enghraifft o lawer o bethau ereill, dywedir mai ei giniaw, hyd yn nod ar y Sabboth, fyddai gwerth ceiniog o gacenau, neu gingerbread; ac i gadw ei dreuliau yn y gwesty mor lleied ag a fyddai yn bosibl, arosai allan wedi amser oedfa y bore i'w bwyta yn y mynwentydd, yn mysg y beddau. Nid ystyriai fod aberth o unrhyw beth yn ormod, ïe, hyd yn nod o angenrheidiau cyffredin bywyd, os gallai drwy hyny gael capel yn Aberystwyth. Pan ofynwyd iddo mewn un man, a gymerai efe ychydig ymborth, dywedodd ei fod yn teimlo yn ddiolchgar am y cynyg, ond nas gallai gymeryd dim iddo ei hun, os na chai rywbeth at y capel yn gyntaf. Da was ffyddlon! Y meistr yn gyntaf—y gwas wedi'n. Yn ngwyneb llafur a hunanymwadiad mor fawr, mae yn ddiau genym mai nid ychydig ydoedd gorfoledd Shadrach pan oedd, rhyw ddeunaw mlynedd ar ol hyn, yn gallu ysgrifenu y geiriau hyn—"Ni bu neb o aelodau yr eglwys yn Aberystwyth yn atebol am un swllt o'r holl draul a aeth at adeiladu eu capel hardd, ac ni thalasant un geiniog o lôg arian." Yn ddiau "y tadau a lafuriasant," a dylai eu llafur a'u hunanymwadiad gael ei gofio genym gyda pharch. Parhaodd yr undeb rhwng Shadrach a'r eglwys hon