Tudalen:Bywyd a gweithiau Azariah Shadrach.djvu/60

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

hyd y flwyddyn 1835, pryd y rhoddodd ei gofal gweinidogaethol i fyny; eto pregethai yma yn achlysurol hyd nes yr aeth yn rhy analluog. Cafodd y pleser cyn ei fynediad ymaith o weled olynydd iddo yn ymsefydlu mewn tangnefedd yn y lle, a phrofion boddhaol y cai ei lafur ef ei hun ei berffeithio yn ei law. Wedi cael hamdden i ymddadrys yn raddol oddiwrth y weinidogaeth a'r byd, bu y gwas ffyddlon hwn farw Ion. 12fed, 1844, yn 69 mlwydd oed. Heddwch ac anrhydedd i'w lwch !

Wele ni, bellach, wedi ceisio gosod a threfnu prif ffeithiau a helyntion bywyd gweinidogaethol Azariah Shadrach o flaen y darllenydd. Mae yn ddiau fod yma lawer iawn o ddiffygion; ond ni a hyılerwn fod yr argraff gyffredinol yn gywir. Ni a wyddom fod llawer iawn o'r mân geryg sydd yn angenrheidiol er perffeithio yr adeilad, ac i gau pob twll o flaen beirniadaeth, yn eisieu; ond ni a hyderwn fod y prif feini sydd yn angenrheidiol er dangos ffurf a llun yr adeilad, wedi eu gosod mewn trefn. Mewn pennod ddyfodol, ni a geisiwn arwain y darllenydd, ar bwys y ffeithiau a osodasom ac a osodwn ger ei fron, i sylwi ar brif deithi ei gymeriad, fel dyn, Cristion, gweinidog, ac awdwr. Cyn ei adael y tro hwn, mae yn briodol i ni ddyweyd, fod marwolaeth Shadrach wedi bod yn deilwng o'i fywyd. Bu fyw mewn llafur, a bu farw mewn tangnefedd. Ar fin yr afon, yr oedd yn gallu dyweyd dau beth tra phwysig am dano ei fun, sef, na ddarfu iddo erioed dori cyhoeddiad; a bod ei enaid yn ddyogel er ys pum mlynedd a deugain. "Marw a wnelwyf o farwolaeth yr uniawn; a bydded fy niwedd i fel yr eiddo yntau." Claddwyd ef yn mynwent Eglwys St. Michael, Aberystwyth, yn ymyl y rodfa; ac os digwydd i'r darllenydd byth fyned i Aberystwyth, mewn awydd i gael gweled y man y gorwedda, aed yn ei flaen yn unionsyth trwy'r fynwent i gyfeiriad yr hen gastell, ac oddeutu haner y ffordd, ar y llaw ddeheu, caiff weled ei fedd-adail olygus, a'r pennill canlynol yn argraffedig arni:

"Bu ei dafod a'i ysgrifell
Yn cyd-daenu efengyl Crist;
Perlau'r groes, ac aur Caersalem,
Gynygiai i dylodion trist;
Drych, a Cherbyd, a Goleuni,
Myfyrdodau lu ar g'oedd:
Un-ar-ugain rhif ei lyfrau,—
Bunyan Cymru'n ddiau oedd."