cynwys dwy ar bymtheg o bennodau, yn nghyd a hymnau yn canlyn pob un o honynt. Dat. ii. 5; 1 Cor. x. 12." Argraffwyd hwn gyntaf yn Machynlleth, oddeutu y flwyddyn 1801. Dywedir ganddo ef ei hun am y llyfr, "Er nad oedd fawr o beth, eto fe argraffwyd, ac fe werthwyd miloedd o hono; yr hyn a fu yn anogaeth i mi i gyhoeddi rhagor o'm myfyrdodau o dro i dro." Nid ydym yn gwybod pa sawl argraffiad a fu o hono, ond dywedai Shadrach ei hun, yn y flwyddyn 1810, ei fod wedi cael ei argraffu bedair gwaith mewn ysbaid wyth mlynedd; a diau fod argraffiadau diweddarach wedi eu cyhoeddi o hono. Cyhoeddwyd argraffiad hylaw o hono yn Nghaerfyrddin, yn y flwyddyn 1849, gan M. Jones, Heol-y-prior. Yn y llyfr hwn y mae yr awdwr yn edrych ar wahanol wrthddrychau, a gweithrediadau natur, yn nghyd ag amryw weithredoedd dynion, ac yn eu defnyddio fel cynifer o hoelion wedi eu gosod mewn lle sicr, er mantais iddo ef i gael crogi swp o feddylddrychau ysbrydol wrthynt. Mewn gair, amcan y llyfr hwn yw gwneud "allweddau," neu agoriadau, o wahanol bethau, megys glan y môr, glan yr afon, y mynydd, yr ardd, y gwlaw, a'r gwlith, fel y gallai myfyrdod drwy eu cymhorth fyned at bethau ysbrydol a thragywyddol. Nid oes ynddo yr un ymgais at ysbrydoli pethau naturiol; ond yr ymgais yw ymgodi drwy gymhorth association of ideas, neu gysylltiad meddylddrychau, oddiwrth y gweledig a'r teimladwy, at yr anweledig a'r ysbrydol. Yn gyffredin y mae y byd materol, a gweledig, yn cuddio yr ysbrydol oddiwrth bobl; ond i feddwl Shadrach yr oedd pob peth perthynol i'r byd hwn fel mynegfys i gyfeirio ei sylw at bethau gwell ac uwch. Terfynir pob pennod â'r dymuniadau gweddigar a gyffröid yn ei feddwl gan y myfyrdod blaenorol; yn nghyd ag ychydig bennillion tarawiadol. Rhaid i ni addef ein bod yn caru y cynllun yn fawr. Y nesaf yw,
"Gweledigaeth y March Coch." Methasom yn dêg a chael golwg ar y llyfr hwn, ac felly nid oes genym ddim i fynegu am dano. Gallem feddwl iddo gael ei gyhoeddi oddeutu 1802-3. Y nesaf yw,
"Drws i'r meddwl segur i fyned i mewn i weithio i Winllan y Per Lysiau. Machynlleth: argraffwyd gan E. Pritchard, 1804." Llyfr yw hwn yn traethu yn syml am briodoleddau Duw.