Tudalen:Bywyd a gweithiau Azariah Shadrach.djvu/63

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Gallem feddwl fod yr awdwr yn ystyried ei bod yn anmhosibl myned i Winllan y Per Lysiau i weithio, heb gael adnabyddiaeth y gywir o Dduw yn gyntaf. Y nesaf yw,

"A Looking Glass; neu Ddrych Cywir, i ganfod y gwrthgiliwr yn ei ymadawiad â Duw, ac yn ei holl lochesau dirgel, ac yn ei grwydriadau yn yr anialwch ac yn Babilon; ac hefyd yn ei ddychweliad adref at Dduw drachefn. Dat. ii. 5; 1 Cor. x. 12. Caerfyrddin: argraffwyd gan John Evans, yn Heol-y-prior." Cyhoeddwyd y llyfrau blaenorol, oddieithr y cyntaf, ganddo tra yn aros yn Llanrwst; ond yn nglyn â'r llyfr hwn, y mae yn galw ei hun-Azariah Shadrach, gweinidog yr efengyl yn Llanbadarnfawr. Gan fod y rhagymadrodd yn fyr ac yn nodweddiadol, ni a'i rhoddwn yn llawn:

"Gan nad wyf yn bwriadu galw neb ar y ddaear yn dad i mi, am hyny yr ydwyf yn cyflwyno hyn o LYFR bychan i dy ofal di, O ardderchocaf Dad TRAGYWYDDOLDEB, ac ARGLWYDD ESGOB CAERSALEM NEWYDD, gan ddymuno yn ostyngedig arnat ti i olygu drosto, a maddeu'r camsyniadau a'r ffaeleddau sydd ynddo, a gosod dy sêl wrtho, fel y byddo ef o fawr les a bendith i Dywysoges y Taleithiau, sef i Sion wan, sydd yn ceisio dyfod i fyny o'r anialwch a'i phwys ar ei Hanwylyd.
Hyn yw gweddi a dymuniad dy annheilwng was,
Penpontbren, Ebrill 21, 1807.
A. S.

Pwy byna' breintio'r Drych Gwrthgiliwr, Heb gael cenad gan ei awdwr, Fe gaiff boen a chosb yn sicir, Am iddo gynyg dwyn ei lafur.

Diau fod y darllenydd yn cydweled â ni fod y rhagymadrodd yna, a dweyd y lleiaf, yn ddigon gwreiddiol. A gallem gasglu oddiwrth y pennill fod Shadrach yn benderfynol o amddiffyn ei rights. Ond, a barnu oddiwrth ei gymeriad cyffredin, gallem feddwl nad yw y boen a'r gosb a fygythir yn ddim rhagor na phoen a chosb cydwybod.

Y mae natur a chynwysiad y llyfr hwn yn ddigon amlwg yn ei enw; ac yn mhob peth, y mae yn ymgeisio at lanw ei enw. Gallwn ddyweyd yn dra phriodol am y llyfr hwn, "fel y mae ei enw, fel hyny hefyd y mae yntau." Y mae yn meddu ar fwy