o gyfanrwydd na llyfrau Shadrach yn gyffredin; ac ystyrir ef gyda'r goreu o honynt. Y mae y cyfanrwydd y cyfeiriasom ato yn rheswm dros y rhagoriaeth hwn; a dywedir fod yr awdwr ynddo yn darlunio ei deimlad a'i brofiad ei hun, yn yr anffawd alarus y bwriadwn gyfeirio ati eto; a diau fod hyny yn rheswm arall dros ei ragoriaeth. Ar y pethau a deimlasom, ac a brofasom ein hunain, y gallwn ysgrifenu oreu. Yn y llyfr hwn y mae yr awdwr yn dilyn gorchymyn ein Harglwydd i Petr, " Tithau pan y'th dröer, cadarnha dy frodyr." Argraffwyd hwn ddwy waith mewn ysbaid dwy flynedd o'i gy hoeddiad; ac erbyn 1845, dywedir fod cynifer ag 8000 wedi eu gwerthu, Gwelsom gopïau o argraffiad Caerfyrddin yn 1807; un eto yn 1820; eto, un arall yn 1829, gan Evan Jones, yr hwn sydd yn ein hysbysu ei fod ef wedi "prynu hawl idd y llyfr hwn;" yn nghyd a chopi o argraffiad arall nas gwyddom ei ddyddiad. Y mae yn dda genym hysbysu, hefyd, fod argraffiad glanwaith a hylaw o hono wedi ei gyhoeddi yn ddiweddar yn y Bala, gan Griffith Jones.
Yn y flwyddyn 1845, cyhoeddwyd cyfieithiad Saesonaeg o'r llyfr hwn, dan yr enw "The Backslider's Mirror: a popular Welsh Treatise, translated from the ancient British Language, by EDWARD S. BYAM, Esq., late of the Mauritius. Bath: Binns & Goodwin; London: Simpkin, Marshall, & Co." Cyflwynir y llyfr yn y cyfieithiad hwn i Sir Fowell Buxton, Bart. Bu y cyfieithydd am hir amser yn Chief Magistrate yn Mauritius; ac ymddengys ei fod yn bleidiwr ffyddlon i'r caethion yn erbyn gormes ereill. Byddai yn dda i'r dynion ieuainc hyny sydd yn diystyru ein llenyddiaeth, ddarllen rhagymadrodd y gŵr hwn i'r cyfieithiad. Wedi cyfeirio at ein hen lawysgrifau, yn y meddiant o'r rhai, medd efe, y mae y Cymry ar y blaen ar unrhyw bobl ereill yn Ewrop, o ran eu rhifedi a'u hamrywiaeth; ac wedi cyfeirio at derfynau cyfyng ein llenyddiaeth, drwy fod yr iaith Saesoneg a'i holl gyflawnder o gyfoeth yn gwasgu arnom, y mae yn sylwi, yn neillduol, y gallwn ymffrostio eto mewn un peth ar waethaf ein terfynau cyfyng; hyny yw, nad oes un llyfr afiach—un yn cynwys gwenwyn meddyliol—un y gallwch ei alw yn briodol yn "llyfr drwg," wedi cael, nac yn cael, ei gyhoeddi yn ein plith. A