Tudalen:Bywyd a gweithiau Azariah Shadrach.djvu/65

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

dywed yn mhellach am y llyfrau oeddynt y pryd hwnw wedi cael eu cyhoeddi yn ddiweddar yn ein plith, "that they are of such a description as would do honour to the most vast, renowned, and polished nations of Europe;" a chyfeiria yn neillduol at Eiriadur Ysgrythyrol Charles o'r Bala, fel engraifft. Gosodasom ei uchel ganmoliaeth yn ei eiriau ei hun, fel na byddai neb o'r rhai sydd yn hoff o ddiystyru ein llenyddiaeth yn cael lle i ddyweyd ein bod wedi rhoddi ein geiriau ein hunain yn ei enau. Y nesaf ydyw,—

"Perlau Calfaria; neu Arian Gwaedlyd y Groes, wedi eu codi allan o Fanc Caersalem, a chwedi cael eu pwyso yn Nghlorianau y Cysegr; ac Aur efengylaidd, wedi cael ei gloddio allan o Fŵn-gloddiau'r Gyfraith Seremonïol; lle y dangosir sylwedd llawer o'r Types a'r Cysgodau, mewn difrifol Fyfyrdodau. Mat. xiii. 46; Preg. x. 19; Dat. iii. 18. Caerfyrddin: argraffwyd gan Jonathan Harries, yn Heol-y-Brenin, 1808." Y mae y llyfr hwn yn cynwys rhes o fyfyrdodau:-1. Ar fodolaeth Duw. II. Ei Briodoleddau, III. Ei Deitlau. IV. Ar y Gair. V. Ar Grist. 1. Ar Berson Crist. 2. Swyddau Cyfryngol Crist. 3. Darostyngiad Crist. VI. Myfyrdodau ar Grist fel Sylwedd y Cysgodau. VII. Ar Grist fel Sylwedd yr Aberthau, a phethau ereill. VIII. Ar Deitlau Crist. Crynodeb o brif athrawiaethiau crefydd yw hwn, yn nghyd a'r profion ysgrythyrol ar ba rai y gorphwysant; heb nemawr o ymgais at ymresymiad manwl. Dan y pen cyntaf, fodd bynag, yr ydym yn cael engraifft o ymresymiad da; a gobeithiwn y bydd yn foddhaol gan y darllenydd ei weled:—"Fe ymddengys yn eglur," meddai, "fod yn rhaid i'r greadigaeth fod er tragywyddoldeb, neu roddi bod iddi ei hun, neu gael ei bod gan rywun arall. Ond pe buasai y greadigaeth er tragywyddoldeb, yna, hi fuasai o angenrheidrwydd yn anfeidrol, yn ddiadfeiliol, yn annghyfnewidiol, ac uwchlaw. bod yn agored i gael ei dystrywio na'i niweidio gan ddim, Ac nis gallasai'r greadigaeth roddi bod iddi ei hun, canys rhaid i'r hyn a roddo fod i beth, i fod o. flaen yr hyn a gaffo ei fod ganddo; am hyny y mae yn rhaid fod y greadigaeth wedi derbyn ei bod oddiwrth rywun arall. Nid ydym yn meddwl y gall y darllenydd gael llawer gwell ymresymiad na hwn yn y Burnett Prize Essay. Gan fod