Tudalen:Bywyd a gweithiau Azariah Shadrach.djvu/66

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

rhagymadrodd y llyfr hwn eto mor nodweddiadol, ni a gymerwn ein cenad i roddi rhan o hono o flaen y darllenydd:

"Fy anwyl Gyfeillion a'm Cydwladwyr,—Yr ydwyf wedi eich anerch yn barod â Drychau i chwi ganfod eich gwynebau; yn bresenol yr ydwyf yn eich anerch â Pherlau i addurno a difyru eich meddyliau; ac hefyd yn eich anerch âg arian ddigon, o ddwys Egwyddorion; ac Aur Efengylaidd. Mewn cysgod y cawd sylwedd.

Gan fod llawer o honoch wedi dangos parodrwydd i dderbyn fy Nrychau mewn modd caredig, yr ydwyf yn hyderu na wnewch chwi ddim gwrthod y Perlau, y rhai sydd yn llawer mwy gwerthfawr a defnyddiol.

******

Hyn yw dymuniad eich annheilwng was yn yr efengyl,

Ebrill 23, 1808. ———————————— A. S.

Paid a blino yn ei ddechrau,
Rhag na chei di ddim o'r Perlau;
Dos, a darllen ef yn gyfan,
Ti gei gwrdd â'r Aur a'r Arian."

Yr argraffiad diweddaf a welsom o hwn, oedd un Caerfyrddin, yn y flwyddyn 1829, E. Jones, Heol-y-prior. Y nesaf yw,

"Clorianau Aur, i Gristionogion gael pwyso eu profiadau a'u hwyliau crefyddol: lle y dangosir y gwahaniaeth sydd rhwng hwyliau a chynhyrfiadau neillduol yr Ysbryd Glân, a'r hwyliau sy'n tarddu oddiar dymherau naturiol. Mewn ffordd o ymddyddan rhwng Paul a Silas.

Waith i mi bwyso gormod ar fy nhymherau gwan,
'Rwy'n aml dan y tonau, ac weithiau ar y lan;
Cadernid y cyfamod, a choncwest Calfari,
Esgyniad ac eiriolaeth, yw sail fy ngobaith i.

Aberystwyth: argraffwyd gan James a Williams, 1809. Traethodyn dwy geiniog yw hwn, wedi ei gyflwyno i "Gristionogion o bob enw," gan obeithio y bydd i'r bendigedig Dduw ei fendithio, "i'ch gwasgu chwi yn gyffredin i chwilio yn fanwl pa beth sydd genych erbyn gwynebu'r sylweddolfyd mawr tragywyddol." Ymhola i bedwar peth:-1. Pa beth sydd yn profi fod yr Ysbryd Glân yn Dduw. II. Pa beth yw yr Ysbryd Glân i'w bobl. III. Pa beth yw y gwahaniaeth sydd rhwng yr