Tudalen:Bywyd a gweithiau Azariah Shadrach.djvu/67

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

hwyliau sydd yn tarddu oddiar dymherau naturiol yn unig, a'r hwyliau santeiddiedig sydd yn cael eu cynhyrfu, mewn modd neillduol, gan yr Ysbryd Glân. IV. Pa beth yw y gwahaniaeth sydd rhwng y gwir Gristion a'r rhagrithiwr. Yr ydym yn ystyried y llyfryn hwn yn un gwir dda: a chwenychem yn fawr ei weled yn llaw pob un tueddol i hwyliau, yn enwedig mewn adeg o ddiwygiad. Y nesaf yw,—

"Blodau Paradwys, yn llawn o fêl; neu ddifrifol fyfyrdodau ar amrywiol o'r enwau, a'r teitlau, a'r cyffelybiaethau rhyfeddol ag y mae y duwiolion ac Eglwys Dduw yn gael yn yr Ysgrythyrau Santaidd. Caerfyrddin: argraffwyd gan J. Evans, Heol-y-prior, 1810." Mewn cyfeiriad at deitl y llyfr hwn, y mae yr awdwr yn gobeithio y bydd ei "anwyl gyfeillion a'i gydwladwyr," fel "gwenyn," yn ddiwyd i sugno mêl o gysuron i'w heneidiau o bob blodeuyn o honynt. Y mae y teitl yn gyflawn hysbysiad am gynwysiad y llyfr hwn. Ni welsom ond un argraffiad o hono. Y nesaf yw,

"Trysorau'r Groes, wedi cael eu cyflawn agor ar ddydd marchnad yr efengyl, ac yn cael eu cynyg yn rhad tra parhao'r farchnad i'r penaf o bechaduriaid; lle y dangosir rhagoriaeth y cyfamod gras ar y cyfamod o weithredoedd; gogoniant y gyfraith a gogoniant yr efengyl. Lle y dangosir hefyd beth yw ffynon y cyfamod gras, natur y cyfamod, trysorau y cyfamod, gwaed y cyfamod, cadernid y cyfamod, a'r modd ag y mae Duw yn gwneud ei hun drwodd i'w blant mewn cyfamod; yn nghyd. a nodau y bobl sydd yn y cyfamod yma. Mewn llafurus fyfyrdodau. 2 Sam. xxiii. 5.

Bendithion ar fendithion, trysorau angeu loes,
Grawnsypiau mawrion addfed yn hongian ar y groes,
Sydd yn cwmpasu'm henaid, rhinweddau mawr eu grym,
A minau yn y canol, heb allael d'wedyd dim.

Caerfyrddin: argraffwyd gán J. Evans. 1811." Y mae y llyfr hwn ar yr un cynllun a'i lyfrau ereill, ac yn dwyn yr un ddelw. Wedi'r fath wyneb-ddalen, oferedd fyddai ceisio manylu i osod allan gynwysiad y llyfr Ni a ymddigonwn ar roddi dyfyniad byr o'r rhagymadrodd. Pan yn anerch ei "Anwyl Gyfeillion a'i Gydwladwyr," dywed yr awdwr wrthynt:—