Tudalen:Bywyd a gweithiau Azariah Shadrach.djvu/73

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

a'i gydwladwyr," ei fod wedi dechreu ar ei daith fyfyrdodol bon er ys llawer o flynyddau; a gobeithia y bydd i'r hanes fer a roddir yma o'r "daith fyfyrdodol hon, i gychwyn llawer o honynt i deithio ar bererindod trwy feusydd eang ffrwythlon yr ysgrythyrau, yn lle teithio trwy feusydd gwagedd a gau bleserau y byd." Anerchir ei" gyfeillion a'i gydwladwyr" fel hyn, ganddo, o " Galltycrib," Mawrth 26ain, 1819. Yn y llyfr hwn, y mae yr awdwr yn personoli myfyrdod; a rhydd y ddosran agoriadol awgrym am gyfansoddiad y llyfr:

"I. MYFYRDOD AR YR ARFAETH DRAGYWYDDOL. Myfi, Myfyrdod, a gefais fy ngeni a'm magu yn mhalas Deall, ac yn 'stafell y Meddwl Dirgel; a chefais ychydig o ddysg yn ysgol 'Mofyngar; ond fe ddaeth yn fy meddwl yn foreu i fyned i deithio yma a thraw i edrych ar ryfeddodau Goruchel Lywiawdwr y byd; ond cyn i mi deithio nemawr, daethum at eisteddfod Jehofa, y Tad, y Gair, a'r Ysbryd Glân, pa rai sydd yn ogyfuwch mewn gallu a gogoniant, ac yn ogyd-dragywyddol; ac yn ymbleseru, yn llawenychu, ac yn tragywyddol ymddedwyddu y naill yn y llall, pryd nad oedd haul na lleuad, ser na phlanedau, pa dynion nac angylion; ac yn eistedd mewn cyngor unol i ddwyn rhyw bethau mawr oddiamgylch, ag y bydd canu am danynt pan byddo amser wedi darfod.

Y mae y llyfr hwn yn dechreu gyda'r arfaeth, ac yn talu sylw i brif ffeithiau yr Hen Destament. Cedwir ieithwedd y ddosran uchod o'r dechreu i'r diwedd. Yr oedd yr awdwr wedi bod yn hwy nag arferol cyn dod a'r llyfr hwn allan. Yr oedd pedair blynedd yn agos â phasio er pan gyhoeddwyd "Rhosyn Saron;" & gallem feddwl fod sychder dadleuaeth wedi diffrwytho ei feddwl, oni bai fod maint y llyfr hwn yn rhoddi esboniad arall. Y llyfr hwn yw y mwyaf o'i eiddo hyd yn hyn. Y mae yn cynwys 200 o dudalenau, yn yr argraffiad diweddaf, mewn llythyren go fân. Y nesaf ydyw,—

"Tabernacl Newydd, wedi cael ei agoryd ar fynydd Calfaria, yn nghyntedd pa un y gall yr Iuddewon a'r Cenedloedd gydganfod hawddgarwch a gogoniant Iesu Grist, yr hwn yn unfryd a groeshoeliasant ar Golgotha; sef myfyrdodau a sylwadau ar rai materion o bob pennod yn agos ag sydd yn y Testament Newydd: mewn dull o ymddyddanion rhwng Iuddewon a