Tudalen:Bywyd a gweithiau Azariah Shadrach.djvu/74

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Chenedloedd, yn nghylch amrywiol o Destynau a Phregethau Efengylaidd. Hefyd, Hymnau, ar eu dull yn canu ar ddiwedd y cyfarfodydd, Heb. ix. 8. Caerfyrddin: argraffwyd gan Evan Jones, yn Heol-y-prior." Nid oes un dyddiad wrth yr argraffiad hwn; ond hysbysir ni ar argraffiad o Berlau Calfaria gyhoeddwyd yn 1829, fod "y llyfr rhagorol hwnw a elwir y Tabernacl Newydd," y pryd hwnw yn y wasg. Awgrymir drwy hyn fod y llyfr yn adnabyddus o'r blaen, ac y mae genym o'n blaen hen argraffiad o hono, sydd yn ymddangos yn rhy hen i'r flwyddyn 1829; ond yn anffodus, y mae ei wyneb-ddalen yn eisieu. Hwn yw y mwyaf o'i holl lyfrau; a chynwysa dros 300 o dudalenau yn yr argraffiad henaf a welsom, a 300 cywir yn yr ail. Y mae y llyfr hwn yn cynwys 229 o bregethau, mwy neu lai cyflawn, ar destynau o wahanol lyfrau y Testament Newydd. Yr ydym yn tybied mai hwn oedd ystordy mawr y pregethwyr gweiniaid hyny oeddynt yn delio mewn defnyddiau ail-law flynyddoedd yn ol. Ac fel llyfr yn cynwys skeletons pregethau, yr ydym yn meddwl fod y llyfr hwn yn sefyll yn anrhydeddus yn mhlith llu. Y mae yr awdwr wedi bod yn lled hapus yn y cynllun gymerodd i osod ei skeletons allan. Y mae yn dychymygu ei fod yn esgyn i fryn penodol; ac ar y bryn hwnw y mae yn gweled amryw ddynion yn gweithio yn ddiwyd wrth eu galwedigaeth, ac yn ymddyddan a'u gilydd yn siriol. Wedi dynesu atynt, y mae yn tybied, yn gyntaf oll, ei fod yn clywed un o'r enw Asaph yn gofyn yn gyfeillgar i Heber, " Pa. le y buoch chwi, fy anwyl gyfaill, yn treulio y Sabboth diweddaf?" Y mae hyny yn arwain Heber i ddyweyd ei fod wedi bod yn y Tabernacl, yn Bethesda, ac yn Bethlehem. Yna arweinir ef gan ei gyfaill i adrodd y pregethau a glywodd yn y lleoedd hyn, ac yna daw skeletons i mewn yn naturiol dros ben. Bydd y cyfeillion fel hyn yn myned y Sabboth i gyfarfodydd Sinai, a Bethel, a Horeb, a llu o leoedd ereill; ac weithiau i gymanfaoedd Hermon, a Saron, a Sardis, a'r cyffelyb; bryd arall, byddant wedi bod mewn cyfarfod misol yn Salem, neu gyfarfod chwarterol yn Tabor, &c., a mawr yw eu hyfrydwch tybiedig pan yn adrodd i'w gilydd y toraeth pregethau a wrandawsant. Yn sicr, y mae Shadrach wedi bod mor ddedwydd yn ei gynllun gyda'r llyfr hwn, fel nad ydym yn teimlo