Tudalen:Bywyd a gweithiau Azariah Shadrach.djvu/75

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

lawer gwaith mai "esgyrn" pregethau sydd genym. Y nesaf yw,

"Dyfroedd Siloam, yn cerdded yn araf, ac yn wynebu ar yr holl genedloedd; sef myfyrdodau a sylwadau ar y pethau canlynol:—1. Sylwadau ar, ac addysgiadau oddiwrth, amryw o enwau a geiriau ysgrythyrol. II. Sylwadau ar amrywiol o'r cyffelybiaethau ysgrythyrol. II Sylwadau ar hanesion ysgrythyrol. IV. Sylwadau ar wahanol droion Duw. yn ei ragluniaeth at ddynion yn y byd. V. Sylwadau ar gwymp Babilon fawr. VI. Sylwadau ar alwad yr Iuddewon. VII. Sylwadau ar ogoniant y Mil Blynyddoedd. VIII. Sylwadau ar ddirywiad yr eglwys yn y dyddiau diweddaf, a gwrthryfel Gog a Magog. A hymnau yn canlyn y myfyrdodau. Ezec. xlvii. 9. Aberystwyth: argraffwyd gan Esther Williams, 1827." Wedi'r fath wyneb-ddalen, nid oes eisieu i ni ddyweyd dim am gynwysiad y llyfr hwn. Yn ei ragymadrodd, y mae yr awdwr, fel arferol, yn anerch ei "anwyl gyfeillion a'i gydwladwyr," a dywed wrthynt:—"Yr ydwyf yn eich anerch unwaith eto, â'r gyfran hon o'm Myfyrdodau. Chwi fuasech yn eu cael yn gynt, oni buasai llawer o drafferthion blin, a nychdod, a gwendid corfforol, a llesgedd yn y tŷ o bridd; ond yr wyf yn gobeithio y byddant o fendith i chwi eto, i'ch dwyn i fyfyrio llawer yn ngair y gwirionedd." Dyddir hwn Aberystwyth, Ebrill y 4ydd, 1827. Y mae y darllenydd yn gweled mai "araf" iawn yn wir y rhedodd y "Dyfroedd" hyn er cyhoeddiad y llyfr blaenorol; ond na thybier fod yr awdwr yn segur. Na, er cyhoeddiad y Cerbyd Aur, bu yr awdwr yn y drafferth fawr yn adeiladu capel Aberystwyth; ac yn y drafferth fwy fyth yn ceisio talu am dano. Ac heblaw hyny, ddarllenydd, y mae y llyfr hwn yn 300 o dudalenau. Ac i brofi diwydrwydd yr awdwr yn mhellach, gallwn ddyweyd wrth y darllenydd fod yr "Hysbysiad" canlynol i'w weled ar amlen y llyfr hwn:

"Y mae y llyfrau canlynol agos bod yn barod i'r argraffwasg, gan Azariah Shadrach:—1. Gwallt Samson yn cael ei dori. 2. Cerbyd o Goed Libanus. 3. Darn o Bomgranad. 4. Cangen o Rawn Camphir. 5. Myrr Dyferol. 6. Modrwyau Aur. 7. Tlysau Aur. 8. Boglynau o Arian. 9. Maes Boaz. 10.