Tudalen:Bywyd a gweithiau Azariah Shadrach.djvu/76

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Gwisgoedd y Cysegr. 11. Blodau'r Figysbren. 12 Y Mor Tawdd.

D.S. Ni bydd un o honynt dros werth swllt."

Ddarllenydd anwyl! onid doeth y gwnaethom ddringo i'r Cerbyd Aur, gan fod pen ein gyrfa yn ymddangos eto mor bell! Y nesaf ydyw,

"Gwallt Samson yn cael ei dori, pan oedd yn cysgu ar liniau Dalilah: neu, y Cristion yn colli ei nerth a'i wroldeb mewn dyledswyddau crefyddol wrth gysgu mewn difaterwch; mewn deuddeg o fyfyrdodau ar y pethau canlynol:-1. Myfyrdod ar fywyd Samson. 2. Myfyrdod ar Samson fel cysgod o Grist. 3. Myfyrdod ar Samson yn cysgu ar liniau Dalilah. 4. Myfyrdod ar wallt Samson yn cael ei dori. 5. Myfyrdod ar y Cristion yn colli cymundeb â Duw. 6. Myfyrdod ar y Cristion yn colli heddwch cydwybod. 7. Myfyrdod ar y Cristion yn colli ysbryd gweddi. 8. Myfyrdod ar y Cristion yn colli hyder mabaidd. 9. Y Cristion yn colli ysbryd myfyrdod. 10. Myfyrdod ar y Cristion yn colli ysbryd gwyliadwriaeth. 11. Myfyrdod ar y Cristion yn colli ymddygiad santaidd. 12. Myfyrdod ar y ddyledswydd o hunanymholiad. Yn nghyd â Hymnau ar ol y myfyrdodau, ar ddull Samson yn canu ar ol enill ei fuddugoliaethau, mewn difrifol fyfyrdodau. 1 Tim. iv. 15. Caerfyrddin: argraffwyd yn Swyddfa Seren Gomer, gan W. Evans, 1831." Y mae rhediad y llyfr hwn yn hysbys i'r darllenydd oddiwrth y wyneb-ddalen gyflawn uchod. Y mae yn gynwysedig gan mwyaf o bregethau a hymnau. Cynwysa 180 o dudalenau. Y mae llawer o'r pregethau a'r hymnau hyn yn bur dda; ac, ar y cyfan, yr ydym yn meddwl fod Gwallt Samson yn cael ei ystyried yn deilwng o sefyll yn uchel yn mysg ei lyfrau ereill. Y nesaf ydyw,—

"Cangen o Rawn Camphir; neu Phiol y Fendith: sef sylwadau ar amrywiol ysgrythyrau, ac yn neillduol ar yr ordinhad santaidd o Swper yr Arglwydd: yn mha rai y gosodir allan fawredd cariad, darostyngiad, dyoddefiadau a marwolaeth Crist, wrth ddwyn oddiamgylch iachawdwriaeth dragywyddol i ferch yr hen Amoriad. Yn nghyd a Hymnau yn canlyn y sylwadau, i gynorthwyo Sion i hwylio ei thelynau wrth deithio adref i fryniau gogoniant; mewn byr fyfyrdodau. Can, i. 14; 1 Cor: