Tudalen:Bywyd a gweithiau Azariah Shadrach.djvu/80

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ryfeddodau! Amcan Shadrach yn y llyfryn hwn yw cymhell y rhai fyddo yn chwilio am cornelian stones ar hyd traeth Aberystwyth, i fyned i chwilio am yr hyn a gymherir i geryg gwerthfawr yn yr ysgrythyrau. Nis gallwn wneyd yn well, gyda golwg ar y llyfr hwn, na rhoddi o flaen y darllenydd anerchiad terfynol yr awdwr i'w ddarllenwyr:

"My dear friends,When you search diligently for cornelians and other stones on the sea shore of Aberystwyth, let me invite you to the sea shore of the everlasting gospel, that you may find pearls and jewels to enrich your souls to all eternity, and bathe yourselves in the blood of Christ, and in the fountain which was opened to the house of David, and to the inhabitants of Jerusalem. Amen.

Aberystwyth, June 25, 1821. AZARIAH SHADRACH.

Fel hyn yr oedd Shadrach yn ceisio gwneud defnydd o bob peth i arwain meddwl pobl at grefydd. Os gwir ddywed y Sais fod pregethau mewn ceryg, y mae mor wir a hyny fod Shadrach yn ceisio pregethu oddiarnynt. Gallem feddwl, oddiwrth y ddau ddyddiad, fod y llyfr hwn wedi ei gyhoeddi yn flaenorol, neu ei fod wedi cael ei ysgrifenu lawer o flynyddoedd cyn iddo gael ei argraffi. Y nesaf ydyw,

"Tlysau Aur, i addurno Tlodion Eden, neu fyfyrdodau a sylwadau ar amrywiol o destynau a gwirioneddau pwysig, cynwysedig yn yr ysgrythyrau santaidd, yn nghyd a Hymnau yn canlyn y Myfyrdodau, i gynorthwyo Sion i hwylio ei thelynau wrth deithio adref tua'r nefol drigfanau, ar faesydd purdeb yn ngwlad anfarwoldeb. 1 Tim. iv. 15, Abertawy: argraffwyd gan E. Griffiths, Heol-fawr, 1837." Yn ei anerchiad i'w "anwyl gyfeillion a'i gydwladwyr," y mae yr awdwr yn dyweyd nad oes yn awr ond cam rhyngddo ag angeu: a bod llawer o'r hen weinidogion a fu yn cydweitho âg ef yn achos yr efengyl, ac yn cydymdrechu yn mhlaid y ffydd, wedi dyosg eu harfau, Ac yna ychwanega yr hyn a roddwn i lawr yn ei eiriau ei hun:

"Y mae dros ddeng mlynedd ar ugain er pan ddarfu i mi eich anerch gyntaf â chyfran o'm myfyrdodau; ond er cymaint o fyfyrdodau a gyhoeddais, y maent yn myned oddiwrthyf oll yn fuan; am hyny yr wyf yn gobeithio fod rhywrai yn cael hyfrydwch wrth eu darllen, fel y cefais inau wrth eu myfyrio.