Tudalen:Bywyd a gweithiau Azariah Shadrach.djvu/81

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Gallaf dystio, yn ymyl y bedd, mal bywyd hyfryd iawn yw bywyd o fyfyrdod ar air Duw, ac ar bethau ysbrydol a thragywyddol; ac yr wyf yn gweddio yn ddifrifol am i hyn o fyfyrdodau, a phob addysgiadau buddiol, fod o les i'ch eneidiau anfarwol, i'ch addfedu i'r aneddle lonydd, ac i'r orphwysfa nefol.

Wyf, eich annheilwng was yn yr efengyl, Hydref 21, 1836.

AZARIAH SHADRACH.

Llyfr o bregethau cyflawn eto ydyw hwn, gyda'r hymnau "j gynorthwyo Sion i hwylio ei thelynau" wrth reswm. Mae testynau neu bynciau y pregethau oll yn bwysig; ond nid yw yn ymddangos i ni fod un canolbwynt i'r llyfr hwn er rhoddi cyfanrwydd iddo. Ceir ynddo ar 192 o dudalenau, ymdriniaeth syml ac ysgrythyrol ar brif bynciau crefydd. Ni welsom ond un argraffiad o'r Tlysau hyn, Y mae llyfrau yr awdwr yn y blynyddoedd hyn, ac o hyn yn mlaen hyd ddiwedd ei oes, yn llawer mwy mewn maint, ac yn well mewn golwg, nag yn mlynyddoedd cyntaf ei awduraeth. Pa un ai ynddo ef ei hun, ynte yn ei amgylchiadau, ynte yn ysbryd mwy darllengar yr. oes, y mae y rheswm dros hyn, nis gwyddom; efallai yn mhob ụn o'r tri, Y nesaf yw,—

"Blodau y Ffigysbren, neu Fyfyrdodau Difrifol ar amrywiol o bethau sobr, ag sydd yn dal perthynas dragywyddol â'r hil ddynol; sef Ardderchawgrwydd a Gwerthfawrogrwydd Gwir Grefydd; mai dyledswydd pob dyn yw cadw gwinllan ei galon ei hun, a gwylio ar ei enaid; am y gwahaniaeth sydd rhwng y gwir Gristion a'r rhagrithiwr, a rhwng y duwiol a'r annuwiol.

у Hefyd, am wagder y byd, dysgeidiaeth yr Ysbryd Glan, a ffyddlondeb Duw i'w holl addewidion a'i fygythion; yn nghyd a hymnau yn canlyn y myfyrdodau, i sirioli eneidiau y saint yn Bochim, gwlad y galarnadau, Hạb, üi. 17; Mat. xxiv. 32. Abertawy: argraffwyd gan E, Griffiths, Heol-fawr, 1837." Tudalenau, 144. Y mae y wyneb-ddalen yn cynwys prif bynciau y llyfr hwn. Y mae yn gywir ar yr un cynllun a'i lyfrau ereill; ac yn cyfranogi o ragoriaethau a ffaeleddau y lleill. Y mae yn cynwys ugain o bregethau cyflawn, oddieithr y ddiweddaf. Y mae y darllenydd yn sylwi fod yr awdwr, erbyn hyn, wedi taro wrth frawddeg newydd i amlygu amcan yr. hymnay. Y nesaf ydyw,—