Tudalen:Bywyd a gweithiau Azariah Shadrach.djvu/84

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Duw; a bod dyn duwiol iawn, gan hyny, drwy ymgynghori â'i: deimladau a'i ddymuniadau ei hun, yn gallu deall y dyfodol yn well nag ereill; neu, os myn eto, caiff ddyweyd fod "dirgelwch. yr Arglwydd," gyda golwg ar y dyfodol, "gyda'r rhai a'i hofnant ef," yn gystal a bod ei "gyfamod i'w cyfarwyddo hwynt." O'n rhan ni, caift y darllenydd gyfrif am y peth yn y ffordd a fyno; ein gwaith ni yw dangos Shadrach i'r darllenydd fel y dangosodd efe ei hun.

Ymddengys fod Shadrach yn arfer dyweyd, oddeutu deg mlynedd ar ugain yn ol, am gorff parchus y Methodistiaid Calfinaidd, fel hyn,—"Fe gewch chwi weled," meddai, "na fydd y Methodistiaid ddim fel y maent yn awr yn hir (yn teithio); pan fyddont oddeutu can mlwydd oed fel enwad, byddant yn ymofyn gweinidogaeth sefydlog.". Nid oes eisieu dyweyd dim am gywirdeb. y rhagfynegiad hwn.

Rhoddwyd yr hanesyn canlynol i ni, hefyd, o enau Shadrach ei hun, gan un o'i gyfeillion parchedig. Pan oedd Shadrach yn Llundain, yn casglu at gapel Aberystwyth, yr oedd dyn ieuanc i gael ei urddo yn weinidog ar eglwys benodol yn ngogledd neu ddeheudir Cymru, nid oes eisiau dyweyd yn awr pa le. Yr oedd Shadrach yn dygwydd bod dipyn yn gyfarwydd âg amgylchiadau yr eglwys hon; ac oblegyd rhyw resymau neu. gilydd yr oedd yn teimlo cryn ddyddordeb yn ei llwyddiant. Ac, yn anffodus, nid rhyw foddhaol iawn y teimlai wrth feddwl am yr urddiad bwriadedig. Pan ddaeth y dydd penodedig oddiamgylch, cymerodd Shadrach ei giniaw casglyddol yn ei logell fel arfer-sef ychydig o fara a chaws neu'r cyffelyb—a dechreuodd ar ei waith: ond erbyn deg o'r gloch, amser yr oedfa urddiadol, yr oedd wedi ymdynu at hen gladdfa glodfawr Bunhillfields. Aeth i mewn, ac eisteddodd ar feddfaen ei hen frawd, a'i ragflaenor urddasol, John Bunyan. Tra yn eistedd yma, bwytaodd ei damaid, ac arosodd yno hyd nes oedd yn barnu fod oedfa yr urddiad yn Nghymru drosodd. Ac wedi eistedd ar feddfaen arch-freuddwydiwr y byd am gymaint o amser, nid rhyfedd iddo yntau ddechreu breuddwydio. Cyfododd ar ei draed a dywedodd, "Wel," ebe fe, " dyna waith wedi ei wneud yno heddyw, na fydd ond byr iawn ei barhad, ond gofidus iawn ei ganlyniadau." Ac felly yn union y bu! Cyn pen deufis