Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Bywyd a gweithiau Azariah Shadrach.djvu/85

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

wedi diwrnod yr urddiad, yr oedd yr undeb gwelnidogaethol wedi ei dori, a charedigion crefydd yn gorfod yfed bustl a wermod. Y mae genym y dystiolaeth grefaf dros hyn oll.

Ond y pethau rhyfeddaf yw y pennillion canlynol. Ysgrifenwyd hwynt ganddo Mai 26, 1836, mewn lle o'r enw Cae'r Saer, yn ymyl Machynlleth, lle yr oedd wedi bod yn lletya noson; a rhoddwyd hwynt ganddo i'r diweddar Mr. Lewis, yn mysg papyrach yr hwn y cafwyd hwynt wedi ei farwolaeth, ryw bedair neu bum mlynedd yn ol. Ni fuont yn argraffedig o'r blaen; ac os addawa'r darllenydd fod yn dyner o'r farddoniaeth, ni a'u rhoddwn hwynt yma, i fod mewn cof a chadw, hyd oni chyflawner hwynt oll, " yn mhen oesoedd 'nol fy nghladdu," ys dywed yntau.

MYFYRDOD AR AFON DYFI.

Mai 26, 1836.

A. S.

Mae Creawdwr mawr y bydoedd,
'Rhwn a luniodd dir a moroedd,
Yn anfeidrol mewn doethineb,
Nerth, a gallu, a ffyddlondeb.

Fe a luniodd y mynyddoedd,
Yr afonydd, a'r holl foroedd
Ac fe drefnodd afon Dyfi,
I ddybenion mawr aneiri'.

Y mae Dyfi yn rhagori,
Braidd, ar holl afonydd Cymru;
Bydd yr afon hon yn hynod
Mewn rhyw oesoedd sydd i ddyfod.

Can's ni threfnodd y Mawrhydi,
Y fath un ag afon Dyfi,
Heb ei gwneud yn dra defnyddiol;
I fyrddiynau o'r hil ddynol.

Fe gulheir yr afon yma,
A hardd gloddiau o'r cadarna';
Bydd yn afon dda ragorol,
Ac yn borthladd tra dymunol.