Tudalen:Bywyd a gweithiau Azariah Shadrach.djvu/95

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yn llawer iawn gwell, pan fyddo yn iach nag fel arall, gan nad faint fyddo ei alluoedd cynhenid. Gellir cael esgyrn a gwythi mawrion a godidog i enaid, yn gystal ag i'r corff; ond ychydig wneir wedi'r cwbl, os na fydd yno iechyd. Rydd duwioldeb ddim mwy o ddeall i'r dyn nag o'r blaen; ond bydd yn oleuni yn y deall. Yn yr ystyr o wir wybodaeth hefyd, gellir dyweyd, mai "dechreuad doethineb yw ofn yr Arglwydd." Rydd duwioldeb ddim mwy o galon nac ewyllys i'r dyn chwaith; ond rhydd y fath wres yn y galon, a'r fath hyblygrwydd at dda, a'r fath anhyblygrwydd oddiwrth dda, yn yr ewyllys, nes eu gwneud gyda golwg ar eu gwaith yn gwbl wahanol i'r hyn oeddynt o'r blaen. A galw duwioldeb dan yr enw gras, fel yr arferai yr hen bobl mwyaf grasol wneud, y mae yn ddiau genym y gallai Shadrach ddyweyd mewn cyfeiriad ati, gyda golwg arno ei hun fel gweinidog, " Trwy ras yr ydwyf yr hyn ydwyf." A'r foment y daw dynion ereill i gredu yn nuwioldeb diamheuol dyn, byddant drwy rinwedd y grediniaeth hono yn fwy at ei law i gwblhau ei amcanion arnynt. Os dywedwn mai y gwirionedd a bregethir yw yr hoel, ac mai talentau a duwioldeb y pregethwr yw y morthwyl sydd i'w gyru i dref, yna gallwn ychwanegu, fod crediniaeth y gwrandawyr yn ngwir dduwioldeb y pregethwr, yn gwasanaethu i dyllu y galon er ei derbyn. Gorchest i ddyn yw gwneud daioni i bobl, os na fyddant yn credu ei fod yn ddyn da ei hun.

Nodwedd arall ynddo ydoedd cydwybodolrwydd. Diau genym fod duwioldeb, a hi yn berffaith, yn cynwys cydwybodolrwydd. Yn y beau ideal o honi, neu os myni, Gymro mwyn, yn y perffeithrwydd o honi, y mae gwir grefydd fel y mor yn ei lawn lanw, i lenwi holl gyneddfau a chilfachau yr enaid. Ac os myn y darllenydd, addefwn yn rhwydd nad ydyw cydwybodolrwydd ond y gydwybod dan reolaeth crefydd—y gydwybod wedi ei llanw â duwioldeb. Ond, hyd yn nod er addef fod cydwybodolrwydd, ac efallai y nodweddion ereill y bwriadwn eu nodi, yn gynwysedig mewn duwioldeb yn ei pherffeithrwydd, eto y mae yn briodol iawn, ar fwy nag un golwg, i sylwi arnynt yn un ac un. Nid yn ei pherffeithrwydd yr ydym yn gweled duwioldeb yn y byd hwn: ac mewn canlyniad, yr ydym yn gweled llawer dyn duwiol yn bur amddifad o gydwybodolrwydd: ac yr ydym