Tudalen:Bywyd a gweithiau Azariah Shadrach.djvu/96

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

i edrych ar ddynion mewn cyferbyniad i'w gilydd. Y mae cydwybodolrwydd hefyd yn beth mor bwysig, fel y mae yn deilwng o gael ei nodi ar ei ben ei hun. Y mae diwydrwydd dibaid Shadrach yn ddigon o brawf dros ei gydwybodolrwydd; ond nid dyna yr unig brawf. Dywedir wrthym ddarfod iddo, yn nechreu ei weinidogaeth, syrthio i bechod sydd yn llawer iawn o achos cywilydd a galar i Gymru. Ond mor bell ag y deallwn ei amgylchiadau, y mae yn ddiau y gallai, gydag ychydig o bres yn ei wyneb, a dideimladrwydd yn ei gydwybod, osgoi barn condemniad oddiwrth ddynion gyda golwg ar y pechod hwn. Ond dyfarnwyd ef yn euog gan ei gydwybod ei hun. Ar ryw fore Sabboth, gan hyny, ar ol y bregeth, er dirfawr syndod i'r gynulleidfa, am nad oeddynt eto yn gwybod dim am yr helynt, diarddelwyd Shadrach o aelodaeth eglwysig ganddo ef ei hun! Ysgrifenodd hefyd, y cyfleusdra cyntaf a gafodd, i gynadledd o'i frodyr yn y weinidogaeth, i hysbysu iddynt yr amgylchiadau. Cymerwyd hwynt gan syndod at yr hyn a ddygwyddasai; a dywedir fod Dr. Lewis, Llanuwchlyn, yn ystyried ei waith yn diarddel ei hun yn gymaint o bechod a'r llall. Teimlodd yn aruthr am y peth. Fel y dygwyddodd hi, y Dr. oedd yn derbyn Shadrach yn ol i gyfeillach yr eglwys; ac oblegyd pob peth, dywedir ei fod yn bur lawdrwm. Wedi gwrando ar Shadrach yn adrodd ei deimlad galarus, gofynai'r Dr. iddo, " Ie, Shadrach, a ydyw eich calon chwi fel y mae eich genau chwi yn dyweyd?" "Dr. Lewis," meddai yntau, "all fy ngenau i byth ddyweyd sut y mae fy nghalon." Wrth reswm, nis gellid bod yn galed wrtho mwyach. Derbyniwyd ef yn ol yn y man y syrthiodd; derbyniwyd ef hefyd fel pechadur edifeiriol, ac nid fel un yn taeru ei fod wedi cael cam, gan feio pawb a phob peth-ond ei hun. Rhaid i ni adef ein bod yn dra amheus, am dro hir, yn nghylch y priodoldeb o gyfeirio at hyn o gwbl; ond y mae llawer o resymau wedi troi y glorian dros wneud; ac nid ydym yn meddwl fod cymeriad Shadrach yn waeth am ddarfod i ni wneud. Nid anfynych y mae cwymp pobl dduwiol yn gwasanaethu i ddangos eu duwioldeb yn eglurach. Os oedd gwaith Petr yn tynu'r cledd i daro gelynion ei Feistr, yn dangos pybyrwch ei galon drosto, yr oedd ei waith yn wylo yn chwerwdost yn dangos ei edifeirwch am ddrwg.