Ni a nodwn brawf arall o gydwybodolrwydd Shadrach. Efallai na fydd pawb yn cydweled am ddoethineb yr hyn y cyfeiriwn ato; ond nis gall neb amheu y cydwybodolrwydd a arddangosir. Er fod gweinidogaeth Shadrach pan yn Nhalybont yn neillduol wasgaredig a llafurus; ac er ei fod dan orfodaeth i gychwyn yn bur foreu y Sabboth, mewn trefn iddo, fel gwr traed, allu cyrhaedd lle ei gyhoeddiad mewn pryd; eto, ni adawai ei dŷ un bore Sabboth heb ddarllen a gweddio gyda'i deulu yn gyntaf. A phryd bynag y dychwelai y nos, a chan nad faint fyddai ei flinder a'i ludded, ni adawai y ddyledswydd deuluaidd ar ol. Ei reswm dros y manylwch hwn oedd, nad oedd yn gweled ei bod yn iawn i'r naill ddyledswydd gael cilgwthio y llall—i waith crefydd yn y capel gael gwasgu ar waith crefydd yn y teulu. Gan nad beth feddylir am werth ei reswm, y mae yn ddiau fod yma brawf o gydwybodolrwydd; ac y mae cydwybodolrwydd yn berl, er y dichon iddo fod yn llaid ffolineb. Y mae y ffaith hefyd na thorodd yr un cyhoeddiad erioed, gan nad beth fyddai yr amgylchiadau, yn profi cydwybodolrwydd neillduol.
Nodwedd arall ynddo ydoedd, hollol ymgyflwyniad i'r weinidogaeth. Bod yn weinidog da i Iesu Grist oedd amcan mawr ei fywyd; ac yr oedd pob peth arall yn gorfod gwasanaethu i hyn, Nid oedd yn rhedeg fel un yn curo yr awyr, ond fel un am gyrhaedd nôd. Gwir ei fod yn nechreu ei yrfa bregethwrol yn cadw ysgol; er hyny, pregethu oedd y peth blaenaf; a'r rheswm dros yr ysgol yw yr un tra boddhaol hwnw,—nas gellir pregethu heb fwyd. Nid oedd pregethu yn rhoddi bara i nemawr y pryd hwnw; ac yn neillduol i rai yn dechreu; ac felly, mewn trefn i bregethu, yr oedd yn rhaid i ddyn gynllunio sut i gael bara. Ofer fyddai i un llibyn diegwyddor, a dienaid, y pryd hwnw droi at Ymneillduaeth a dyweyd, "Gosod fi yn awr mewn rhyw offeiriadaeth, i gael bwyta tamaid o fara:" bara'r bywyd yn unig gawsid y pryd hwnw yn sicr gyda hi. Yr un rheswm oedd ganddo dros rwymo ychydig lyfrau bryd arall,