Tudalen:Bywyd a gweithiau Azariah Shadrach.djvu/98

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Mewn gair, nid yw pobl dduwiol yn eu cwymp, mwy nag yn eu bywyd, yr un fath a phobl ereill. Dywedir mai y profiad gafodd Shadrach o wrthgiliad yn yr amgylchiad hwn, sydd wedi gwneud Drych y Gwrthgiliwr yr hyn ydyw. neu ysgrifenu llyfr ei hun: mewn gair, nid oedd ef yn pregethu er mwyn byw, ond yn byw er mwyn pregethu. Pob peth er mwyn yr efengyl oedd rheol ei fywyd ef. A phriodol iawn y canodd Mr. Robert Jones gyda golwg arno:

"Son wna'r byd am wneud aberthau, deued, gweled engraifft lwyr,
Dyn yn treulio ac ymdreulio er mwyn ereill foreu a hwyr;
Cadw ysgol am geiniogach, gwneud a gwerthu llyfr er byw,
A rhoi oes, a nerth, a thalent, dros ei wlad ar allor Duw."

Dymunol, onide, ddarllenydd, yw gweled un fyddo yn dwyn yr enw o weinidog yr efengyl, yn gwneud y weinidogaeth yn brif amcan. Nid ydym yn meddwl mai gyda dyledswyddau uniongyrchol y weinidogaeth y dylai fod o hyd: ond credwn y dylai y weinidogaeth fod yn ganolbwynt i bob peth arall ganddo. Fel y mae adenydd yr olwyn i gyd yn ymdynu i'r fộth, fel hyny hefyd y dylai fod pob peth yr ymwnâ gweinidog yr efengyl â hwynt, yn ymdynu at y weinidogaeth. Byddai cyfanrwydd yn ei fywyd felly: ac y mae cyfanrwydd bywyd yn elfen anhebgorol yn ei lwyddiant. Byddai hyd yn nod belydrau yr haul yn rhy wan i losgi pylor, heb iddynt gael eu dwyn i'r un man. Godidog yw hi pan fyddo pob gweinidog yn teimlo mai er amddiffyn yr efengyl y gosodwyd ef; fod angenrhaid arno i bregethu yr efengyl; ac mai gwae fydd iddo os na phregetha hi. Fel y gwnaeth Shadrach, fel hyny hefyd y bydd hwn yn debyg o wneud tipyn o waith yn ei oes.

Y peth arall a nodwn yw dyfalbarhad. Y mae yn ddiau fod dau beth yn peri fod Shadrach yn ddyfalbarhaus. Gallwn gasglu ei fod yn gyfansoddiadol benderfynol: ac ni fyn dyn o benderfyniad cryf adael yn fuan yr hyn a gymer mewn llaw. Meddyliai rhai fod Shadrach yn fwy na phenderfynol yn gyndyn. Er enghraifft, dywed Mr. Morgan am dano yn Hanes Ymneillduaeth, nad "oedd ef heb lawer o wendidau;" ac yn mysg pethau ereill, nodir "cildynrwydd diblygu ei ysbryd" fel gwendid ganddo. Ni charem ddyweyd dim yn groes i Mr. Morgan ar y pwnc hwn; ond goddefer genym ddyweyd fod ereill oeddynt yn dra chyfarwydd â Shadrach yn amheus o gywirdeb y cyhuddiad hwn. Cildynrwydd yw anmharodrwydd