Tudalen:Bywyd a gweithiau Azariah Shadrach.djvu/99

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

i roddi ffordd yn ngwyneb rheswm digonol: ond clywsom awdurdodau go dda yn gwadu fod Shadrach felly. A chan fod Mr. Morgan yn addef nad oedd Shadrach ac yntau yn gallu cydweled gyda golwg ar yr amgylchiadau neillduol a nodir ganddo, y mae yn hawdd genym feddwl ei fod wedi cymeryd amlygiad o benderfyniad cryf fel cildynrwydd. Y mae penderfyniad cryf yn ddiau yn ymddangos yn gildynrwydd i'r rhai sydd yn tynu yn ei erbyn. Ond diau fod gan grefydd law yn ei ddyfalbarhad. Gan nad pa mor gryf y byddo gewynau naturiol y meddwl, y maent yn sicr o roddi ffordd yn aml os na fydd crefydd yn perffeithio ei nerth yn eu gwendid. Nid oes dim fel crefydd i ategu'r galon. Os bydd crefydd yn "ddeddf Duw yn y galon," ni lithra y camrau. Os bydd dyn dan ddylanwad crefydd yn gosod "yr Arglwydd bob amser ger ei fron," yna, "am ei fod ar ei ddeheulaw," ni ysgogir ef. Y mae teimlad mewnol o rwymedigaeth yn grymusu dyn yn effeithiol yn erbyn rhwystrau allanol; ac y mae yn ddiamheuol na ragorai Shadrach byth yn swm y gwaith a gyflawnodd, oni bai fod ynddo benderfyniad cryf yn cael ei nerthu yn fwy gan grefydd. Gall fod genych long o ddefnyddiau ac adeiladiad rhagorol, ond os na fydd yn meddu ar lyw a ballast, gwna bob peth ond yr hyn a ddylai; cyffelyb yw dyn heb benderfyniad ynddo.

Nodweddid ef hefyd fel gweinidog gan dynerwch a gofal. Clywsom ei fod yn neillduol ofalus am bobl ieuainc yr eglwys; a diau fod gofalu am yr ŵyn yn anhebgorol angenrheidiol er llwyddiant a chysur. Os byddir yn ddiofal am fabanod yr eglwys, nid yn unig byddant mewn perygl o farw allan o honi, ond hefyd, os bydd rhai o honynt yn ddigon ffodus a gweled dyddiau gwŷr gyda chrefydd, bydd y diffyg gofal a ddangoswyd tuag atynt yn gwneud ei hun yn amlwg iawn yn eu heiddilwch a'u llibyndod. Os na thelir sylw priodol i blant yr eglwys gan y dynion fyddo ynddi, yn dra buan, plant fydd y rhai a ddylent fod yn ddynion yn yr eglwys hono.

Yn mhob peth, nodweddid ef gan ddiwydrwydd diflino. Gwaith oedd ei fywyd o'r dechreu i'r diwedd. Nid oedd byth yn segur. Yr oedd naill ai yn teithio, yn pregethu, neu yn ysgrifenu, o hyd. Yr oedd llawer iawn o amser yn ofynol i deithio mewn gweinidogaeth mor eang, yn ngwyneb galwadau