Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Bywyd y Parch. Ebenezer Richard.djvu/100

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

dyn yn syn a drysedig, fel pe na buasai yn gwybod pa fodd i grybwyll ei neges. O'r diwedd dywedodd, "Dwad yma 'rwy' i, Syr, i ofyn os gellwch chwi ddyfod i angladd fy meistr ddydd Mercher." Gofynodd yntau yn wyllt, fel pe buasai yn gweled rhyw awgrym o'i neges, "Pwy yw eich meistr?" Atebodd yntau, "Mr. David Evans." Ar hyn bu yn mron syrthio i lewyg. Mor chwyrn a disymwth oedd yr ergyd iddo, fel y teimlodd ar unwaith nad oedd bosibl iddo amcanu myned at ei gyhoeddiad y dydd hwnw, ac arosodd drwy y boreu yn ei ystafell, yn foddedig mewn dagrau a gweddiau. Dygwyddodd fod y Parch. Mr. Williams, o Ledrod, i bregethu y Sabbath hwnw yn Tregaron. Yr oedd yr hen wr parchedig wedi clywed y newydd cyn dyfod i'r tŷ; ac nid anghofiwn byth agwedd y ddau pan gyfarfuont gyntaf. Ar ddyfodiad Mr. Williams i'r tŷ, yr oedd ein tad mewn ystafell arall wrtho ei hun. Pan y daeth allan i'r lle yr oedd ei hen gyfaill yn eistedd, cyfododd yr hen wr parchedig, ac a aeth i'w gyfarfod a'i ddwylaw ar led, a syrthiasant i freichiau eu gilydd. Ni fedrai ein tad lefaru un gair, a'r oll a ddywedodd yr hen wr, wrth ei gofleidio fel plentyn, ydoedd, Eben bach, beth a wnawn ni yn awr?"

Wrth ddechreu yr odfa y prydnawn hwn, o flaen Mr. Williams, darllenodd y bennod gyntaf o ail lyfr Samuel gyda rhyw effaith neillduol, yn enwedig y rhanau olaf o honi; a'r chweched adnod ar hugain o'r bennod hon oedd y testun oddiwrth ba un y pregethodd bregeth angladdol Mr. Evans, ar ddydd ei gladdedigaeth.

Gellir gweled yn y llythyr canlynol, a ddanfonodd yn mis Medi i Gymdeithasiad Pwllheli, dros Gyfarfod