Misol y Sir, ddarlun tra chywir o ddwysder ei deimladau ar yr achos.
Cyfarfod Misol Sir Aberteifi at Gymdeithasiad Pwllheli, yn anfon annerch:
FY MRODYR ANWYL A HOFF,
Ar ddymuniad Cyfarfod Misol Sir Aberteifi, yr ydwyf yn cyfeirio yr ychydig linellau hyn atoch chwi, yn gynnulledig yn eich Cymdeithasiad Chwarterol, y rhai a dderbyniwch drwy law ein brawd caredig a'n cenadwr ffyddlon, Mr. John Morgans. Cenadwr mewn galarwisg ydyw, ac yn cynnrychioli llonaid sir o frodyr mewn galar-wisgoedd. Am ba achos yr ydym yn galaru, nid rhaid i ni ddywedyd wrthych.
Dygwyd atoch yn hir cyn hyn yr hanes flin am rwygiad ar rwygiad a welodd ein Tad nefol yn dda wneuthur yn ein plith ni yma—rhwygiadau na bu eu cyffelyb yn ein plith er pan ydym yn gorph. Colli dau mor llafurus, diwyd, defnyddiol, a llwyddiannus, mewn llai nag wythnos o amser! O! pwy adfera'r golled hon?-eu colli ar ganol eu gwaith, ar ganol eu dydd, a cholli yr olaf cyn ofni ei golli, cyn dysgwyl am y tro, cyn dychymygu na meddwl fod hyny yn bosibl !
Ein dwy aden oeddynt, â pha rai yr ehedem; ein dwy ffon oeddynt, ar ba rai y pwysem; ein dwy fron oeddynt, o ba rai y sugnem; ein dau lygaid oeddynt, â pha rai y gwelem; a'n dwy fraich oeddynt, â pha rai y gweithiem. Ond heddyw wele ni hebddynt hebddynt, nid am ddau fis i Lundain, nid am fis i'r Gogledd, ac nid am wythnosau i Bristol, neu ryw gŵr arall o'r maes, ond hebddynt am byth ar y ddaear!