Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Bywyd y Parch. Ebenezer Richard.djvu/106

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

oedd yn nghyd, ni chlywais fod neb yn gwneuthur yr achwyniad lleiaf, ond pawb yn rhyfeddu sirioldeb y trigolion, a mwy na digon o bob angenrheidiau i ddyn ac anifail: oni fedrwn ganfod llaw'r Arglwydd yn hyn, y mae yn rhaid ein bod yn ddall iawn.

"Barchedig Syr, chwi a wyddoch nad aeth Moses i ryfel gyda Joshua ac Israel yn erbyn Amalec, Exod. xvii. 9—12, &c.; eto yr oedd eu hachos ar ei galon, ac ni allai lai na bod ar y bryn yn dal ei ddwylaw i fynu nes y gorchfygodd Israel; yna cyfodwyd allor yn arwydd o'r fuddugoliaeth, a galwyd hi JEHOFA-Nissi, hyny yw, Yr Arglwydd yw fy maner: felly ninau a ddymunem yn fawr fod ein hachos ninau fel corph ar eich calon, ac yn eich gweddiau chwithau, er na fedrwch fod gyda ni ar y maes fel yn y blynyddau a aethant heibio. Cynnorthwywch ni o'r ddinas fel Dafydd, 2 Sam. xviii. 3, er eich bod yn analluog i fyned allan gyda ein lluoedd.

O ryfedd ddaioni a gras Duw, mae yr achos mawr yn ein mysg yn cynnyddu yn ddirfawr yn holl ranau y wlad: bydded y gogoniant i Dduw a'r llwch i ninau.

Y mae fy anwyl gymhares yn cyduno â mi mewn Crist'nogol a serchus barch a chariad at Mrs. Howells a chwithau.

Ydwyf, anwyl a pharchedig Syr,

eich gwas gwael yn efengyl Crist,

EBENEZER RICHARD.