Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Bywyd y Parch. Ebenezer Richard.djvu/114

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ganfod ei galon mor gynnes at yr arch, a gweision ei Arglwydd sydd ar y maes gyda hi; a gorfoledd hefyd wrth weled nad ydyw wedi colli sylw ar, na serch at, long ein corph bach ni, yr hwn sydd yn nghanol llawer o dònau::-a hiraeth dwys hefyd am weled eich wyneb eto unwaith yn ein mysg; hiraeth am yfed yn helaeth o'r un ysbryd ag sydd mor gyflawn ar ein hanwyl frawd sydd yn rhwym; a hiraeth hefyd am y boreu dedwydd pan y caffom gyfarfod yn yr un gymanfa dragywyddol, heb neb o'r teulu yn eisiau, na neb ond y teulu yn nghyd.

Gorchymynodd yr holl gorph, yn un llais, eu cofio yn y modd serchocaf a charedicaf atoch, a'u bod yn ddiffuant ddiolchgar i chwi am eich llythyr syml, siriol, ffyddiog, ac efengylaidd, darlleniad pa un a barodd i lawer brawd egwan wrth ei glywed, fyned yn hyf, a dywedyd, Awn, a meddiannwn y wlad.' Rhwymasant finau, fel eu hysgrifenydd gwael, i drosglwyddo y penderfyniad uchod i chwi, Syr. Ond O na buasai y gorchwyl yn syrthio ar ryw un mwy cyfaddas y mae gofid arnaf feddwl ysgrifenu at wr sydd yn byw tan wlith Hermon, a minau yn Gilboa-at wr sydd ar ben Pisgah yn gweled y wlad sydd yn llifeirio o laeth a mel, a minau yn nyffryn y celaneddau a glyn lladdedigaeth.

'Swn y rhyfel,
Ydyw'r fan 'rwi eto'n byw.'

Yr oedd pob rhan o'ch llythyr yn wir fuddiol; ond pan yr ydych yn agos i'r diwedd, mewn gwaed milwr, yn gwaeddi ar eich brodyr godi'r banerau, a sefyll yn eu rhesau, ac yn sicrhau y ceir gorchymyn i danio yn fuan, yr oedd byddin ein Hisrael ni yn barod i