goleuni. Ofer ac anobeithiol yw dysgwyl iechawdwriaeth yn angeu a'r ochr draw i'r bedd, oni waredir rhag pechod mewn amser. Fy mechgyn anwyl, nid oes genych ddim i'w ofni os ydych wedi eich gwaredu oddiwrth gaethiwed a chaledwaith (drudgery) pechod. Dymunwn yn fawr wybod yn eich nesaf, a oes un o honoch, neu a ydych eich dau, wedi eich derbyn at fwrdd yr Arglwydd?
Y mae eich mam a Hannah yn uno mewn cariad atoch eich dau.
Ydwyf, fy mechgyn anwyl,
Eich tad,
EBENEZER RICHARD.
Yn agos i ddechreu y flwyddyn hon bu farw gwraig gyntaf y Parch. John Elias, ac anfonwyd y llythyr canlynol ato ar yr achlysur gan Mr. Richard.
AT Y PARCH. JOHN ELIAS, LLANFECHELL, MON.
FY ANWYL FRAWD,
Ychydig ddyddiau yn ol daeth i'm llaw lythyr caredig a doeth oddiwrth ein cyfaill cywir, y Parch. W. Roberts o Amlwch, yn dwyn y newydd poenus ac annysgwyliadwy i mi, am symudiad eich ffyddlon gydmares chwi, a'n chwaer garedig ninau, Mrs. Elias.
Nis gallaf oddef i'm pin ysgrifenu aros i ysgrifio eich colled fawr chwi a'ch anwyl blant—colled yr ardal a'r eglwys—colled pregethwyr cartrefol a theithiol, yn enwedigol yr olaf,—canys gwn nas gwnawn wrth hyny ond ail waedu hen archollion sydd wedi gwaedu gormod eisoes; ac agor dyfr-ddorau sydd wedi llifo yn rhy ddiarbed yn barod.