Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Bywyd y Parch. Ebenezer Richard.djvu/117

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ond goddefwch i mi, frawd, droi ar unwaith yn fy nychymyg i eich annedd dawel yn Llanfechell; ac ar ol taflu golwg i'r shop, ac i'r parlour, i'r llofft, ac i'r llawr, i ofyn pwy fu yma, gan fod y dernyn harddaf o'r dodrefn wedi ei symud, gan fod y trysor gwerthfawrocach na'r carbyncl wedi myned yn eisiau? Pwy fu yma, gan fod y penaf o gysuron daearol, un o weision Crist, wedi myned ar feth, ac un o'r mamau doethaf a thirionaf heddyw heb fod yn ei lle? Pwy fu yma, gan fod y priod serchocaf wedi myned yn weddw, a'r plant hoffaf wedi myned yn amddifaid o'u mham? Pwy fu yma? Ai rhyw leidr digydwybod a fu yma? Nage. Ai rhyw ysbeiliwr calon-galed a fu yma? Nage, nage; ond Tad a fu yma yn ymofyn un o'i blant adref ato i fyw. Perchen cyfiawn a fu yma yn ymofyn ei eiddo ei hun. Ganddo ef yr oedd yr hawl gyntaf, benaf, a chadarnaf. Ond och, syrthiodd yr arf gwerthfawr a defnyddiol i'r Iorddonen, a chollwyd hi yn anadferadwy! Minau welaf fy anwylaf frawd Elias yn sefyll ar lan y dwfr, a chydag wylofain chwerw yn dywedyd, Och fi, fy Meistr, canys benthyg oedd!' Eto ni osododd yr Arglwydd ei law ar ddim ond ar ei eiddo ei hun, yr hyn a allasai wneuthur yn gynt, a gwneuthur mewn modd garwach a chwerwach nag y gwnaeth.

"Gallasai ei chymeryd ymaith â dyrnod disymwth, pan y byddech chwi ar rai o'ch teithiau meithion gyda'r efengyl yn Nghymru neu Loegr. O'r tu arall, gallasai gael ei gadael i ddihoeni am flynyddau mewn clefydau blin a phoenus, a chwithau, frawd, wedi eich rhwymo fel nas gallasech, gyda dim tawelwch, ymadaw ag echwyn ei gwely, na myned un awr o'i golwg. Gallasech ei cholli pan oedd y plant yn fabanod ar y