Ond y mae fy amser i fynu: gweddiwch yn ddibaid, ac na ddiffygiwch nes eich gwneuthur yn fwy gostyngedig ac yn fwy sanctaidd.
Ydwyf, fy mechgyn bach anwyl,
Eich tad pryderus,
EBENEZER RICHARD.
"Yr hyn sydd lawer ar fy meddwl y dyddiau diweddaf hyn, yw y gwerth mawr a'r angenrheidrwydd anhebgorol am grefydd calon, oblegid y mae lluoedd yn awr wedi cymeryd i fynu ryw fath o grefydd ysgafn, ddychymygol, fasw, a di-ysbryd. Y maent yn siarad llawer am dani, yn enwedig am bethau nad ydynt hanfodol, ond yn ymddangos yn ddieithriaid i fywyd a chalon crefydd. Goddefwch i mi, fy anwylaf lanciau, wasgu hyn ar eich meddyliau; cymerwch ef o dan eich sylw mwyaf sobr, meddyliwch lawer am dano, a phwyswch ef yn fanwl.
Ymddengys yr angenrheidrwydd am grefydd calon os ystyriwn, yn 1af, Sefyllfa ein calonau wrth natur: nis gall crefydd y pen adnewyddu ein calonau llygredig a drwg-gwahanglwyf y galon yw ein gwahanglwyf ni-pla y galon yw ein pla ni—am hyny nid oes dim ond crefydd calon a all gyfartalu ein hangen ni.
2il. Y mae fod llygad holl-wybodol y Barnwr, o flaen brawdle pa un y bydd raid i ni yn fuan sefyll, yn chwilio y galon, yn profi tu hwnt i bob ammheuaeth, na wna dim ond crefydd calon y tro yn yr amser pwysig hwnw; am hyny, ymdrechwch lawer am y grefydd hon. ***** Aeth Mr. Henry Rees heibio i ni ar ei ffordd i lawr i Sir Benfro. Yr oedd yn ymddangos fel seraph