Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Bywyd y Parch. Ebenezer Richard.djvu/135

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PEN. XII.

Ail-ymweliad Mr. R. i Lundain, a'r amgylchiadau perthynol iddo—Llythyr oddiwrtho ef at eglwys Tregaron—Un arall at eglwys Llangeitho—Llythyrau at ei Feibion—Llythyr oddiwrth y Parch. H. Howells— Atebiad Mr. R. i yr unrhyw—Llythyr at Mr. John Morgans—Un arall at wraig weddw—Ac arall at Mr. William Morris—Llythyr oddiwrth y Parch. Richard Lloyd.

YN y flwyddyn 1830, cymerodd rhai cyfnewidiadau tra phwysig le yn amgylchiadau rhan o deulu Mr. Richard. Yr oedd amser arosiad ei ddau fab yn Nghaerfyrddin wedi terfynu, ac yr oedd yn angenrheidiol i'r hynaf o honynt, gyda golwg i gyrhaedd y ddysgeidiaeth briodol fel meddyg, i dreulio ysbaid o amser yn y brifddinas. I'r fath dad ag ydoedd Mr. R. yr oedd y pethau hyn yn achosi pryder ac anesmwythder mawr; a chan fod tro Sir Aberteifi, yn ol cynllun y Gymdeithasiad yn y Deheudir, i ymweled â'u cydwladwyr yn Llundain, yn dygwydd oddeutu dechreu y flwyddyn hon, penderfynodd Mr. Richard, ar gais ei frodyr yn Nghyfarfod Misol Sir Aberteifi, i fyned trostynt i Lundain y tro hwn, oblegid ei fod yn cael mantais ar yr un pryd i hebrwng yno ei fab hynaf, yr hyn ydoedd yn dra dymunol i'w deimladau.

Cyn cychwyn oddi cartref, galwodd yn nghyd holl aelodau yr eglwys yn Tregaron ar brydnawn Sabbath, am yr hwn achlysur dywed fel y canlyn yn ei ddyddiadur:— Ar fy nymuniad neillduol i, rhoddwyd heibio ein hodfa gyhoeddus, a chyhoeddwyd ein bod yn dy-