muno i'r eglwys gyfarfod am chwech o'r gloch, yr hyn a wnaethant mewn rhifedi lluosocach nas gallaswn ddysgwyl. Dymunais ar ein cyfaill David Owen, yr hwn a ddygwyddodd fod gyda ni y Sabbath hwnw, i ddechreu y cyfarfod, yr hyn a wnaeth trwy ddarllain, mawl, a gweddi. Yna rhoddais inau gyfarchiad byr i arwyddo yr hyn oedd yn fy ngolwg wrth eu galw yn nghyd, gan hysbysu iddynt mae dymuniad am ran yn eu gweddiau arbenig oedd fy unig ddyben. Wedi hyny gweddiodd pedwar o'r brodyr drosof fi a'm hanwyl fachgen Edward; ac yr oedd yn dymhor nas anghofir yn fuan gan lawer oedd yn bresennol. Yr oedd ysbryd gweddi yn amlwg wedi ei dywallt arnynt, a drws helaeth wedi ei agor i ymdrechu gyda Duw. Argraffwyd geiriau gwraig Manoah yn ddwfn ar fy meddwl, Pe mynasai yr Arglwydd ein lladd ni, ni dderbyniasai efe boeth-offrwm a bwyd-offrwm o'n llaw ni, ac ni ddangosasai efe i ni yr holl bethau hyn, ac ni pharasai efe i ni y pryd hwn glywed y fath bethau.' Bendigedig byth fyddo ei enw gogoneddus ef am sylwi arnom
Yma y canlyn lythyrau a ysgrifenwyd ganddo tra yn aros yn Llundain y tro hwn.
AT EGLWYS Y METHODISTIAID CALFINAIDD YN TREGARON.
FY MRODYR ANWYL A HOFF,
Y mae amryw wythnosau bellach wedi myned heibio er pan y cawsom y fraint fawr a melus o gydgyfrinachu a rhodio i dŷ Dduw yn nghyd; eto yr wyf yn hyderu nad ydym yn anghofio ein gilydd, a gallaf ddywedyd yn rhydd nad oes un dydd na nos wedi