bob amser mewn cof, 'na ddichon un gwas wasanaethu dau arglwydd, canys naill a'i efe a gasâ y naill ac a gâr y llall, a'i efe a lŷn wrth y naill ac a esgeulusa y llall;' ni ellwch wasanaethu Duw a mammon;' a 'gwelir rhagor yn fuan rhwng yr hwn a wasanaetho Dduw a'r hwn nis gwasanaetho ef.'
4. Ymostwng i'w ewyllys ef yn wyneb dyoddefiadau a chroesau; ymddarostyngwch gan hyny i Dduw, a gwrthwynebwch ddiafol, ie, ymddarostyngwch ger bron yr Arglwydd, ac efe a'ch dyrchafa chwi; yn mhellach, ymddarostyngwch tan alluog law Duw, fel y'ch dyrchafo mewn amser cyfaddas.' Ymostwng ger bron yr Arglwydd a barodd arbed Ahab, Hezeciah, a Manasseh; am hyny, fy mrodyr, ymostyngwch i rodio gyda Duw-dyma lle y llwyddodd Aaron, Eli, a Job.
II. Ein dyledswyddau tuag atom ein hunain: coffaf ychydig o lawer o honynt.
1. Ni a ddylem wilio arnom ein hunain. Pan y mae Paul yn cynghori henuriaid Ephesus, un o'r pethau mwyaf neillduol a ddywed efe wrthynt ydyw, 'Edrychwch arnoch eich hunain,' yna ar yr holl braidd. Un o brif achosion ein haflwydd ni ydyw peidio gwilio arnom ein hunain dylem wilio ar ein hysbryd a'n hagwedd, ein hegwyddorion a'n dybenion; ac na fydded ein gwinllan ein hun heb ei chadw pa fodd bynag.
2. Holi ein hunain, fel y dywed yr apostol Paul, Profwch chwychwi eich hunain, holwch eich hunain, ai nid ydych yn eich adnabod eich hunain, sef bod Iesu Grist ynoch, oddieithr i chwi fod yn anghymeradwy.' Pan y dechreuom holi ein hunain y deuwn i weled yr angenrheidrwydd o weddio gyda'r Salmydd, Hola fi, Arglwydd, a phrawf fi: chwilia fy arenau a'm calon.'
3. Ymwadu a ni ein hunain. Anrhydedd