Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Bywyd y Parch. Ebenezer Richard.djvu/14

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fwyn, wylaidd, ac ofnus, ac yn ieuanc yn dueddol iawn i ddysgu, a darllain, ac yn naturiol o gynneddfau cyflym a chadarn." Gellir crybwyll yma hefyd ei fod pan yn fachgen yn hoff iawn o wrando yr efengyl, a chymaint oedd ei awydd i hyn fel y byddai yn arferol o ganlyn rhai o weinidogion enwog a phoblogaidd y dyddiau hyny i lawer hyny i lawer o fanau, yn olynol, pan y byddent yn ymweled a'r rhan hono o'r dalaeth, a byddai yn hoff o adgoffa mewn math o ymffrost ddigrif yr amgylchiadau hyny, fel prawf o zel a gwroldeb ei ieuenctyd.

Nid oes dim neillduol yn mhellach i hysbysu am dano hyd y flwyddyn 1796, pan y goddiweddwyd ef gan afiechyd trwm a pheriglus, o ba un y bu yn annhebyg iawn i gael ei adferu, ac am yr hwn y dywed efe ei hun, yn un o'i bapurau boreuol, "bu'm glaf yn agos i angeu;" ond gofalodd yr hwn oedd wedi ei nodi, heb yn wybod i ddoethineb ddynol, i fod yn "llestr etholedig" iddo ei hun, i amddiffyn a chadw bywyd ag ydoedd i gael ei ddefnyddio i'r fath ddybenion helaeth a godidog. Yn fuan ar ol ei wellâd o'r afiechyd hwnw, ymddengys iddo ymroddi ei hun i gyflawn aelodaeth yn eglwys Dduw.

Y mae yn hysbys i lawer o'n darllenwyr fod arferiad ragorol, yn mhlith y Trefnyddion Calfinaidd, i ddwyn i fynu eu plant o dan ofal arbenig yr eglwys, a'u hystyried fel plant yr eglwys, ac o ganlyniad, a'r fraint ganddynt i fod yn bresenol yn ei chyfarfodydd neillduol, hyd oni ddifreiniont eu hunain, trwy ryw gam-ymddygiad; ac yn unol a'r rheol hon, gellir dweyd i wrthddrych y cofiant hwn gael ei eni yn nhŷ Dduw, a thrigo yno yn hawl ei rïeni, hyd oni welodd yn dda