Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Bywyd y Parch. Ebenezer Richard.djvu/15

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

i Arglwydd y tŷ ei gymeryd ef yn bersonol, a'i gyflogi i'w wasanaeth. Y mae'n debyg i'r afiechyd rhag-grybwylledig gael ei fendithio i ryw raddau, i'w ennill i benderfyniad "i ysgrifenu a'i law ei hun, Eiddo yr Arglwydd ydwyf, ac i ymgyfenwi ar enw Israel."

Yn fuan wedi hyn, yn nechreu y flwyddyn 1797, digwyddodd amgylchiad tra nodedig, yr hwn achosodd gynnwrf, a dychryn nid bychan, yn y rhan hono o'r wlad lle y preswyliai efe. Yr amser hwnw yr oedd y rhyfel ar y cyfandir yn ei boethder mwyaf. Yr oedd Bonaparte yn bygwyth er ys talm i wneuthur ymgyrch gelynol yn erbyn ein hynys. Gyda'r bwriad hyny yr ydoedd wedi cynnull byddinoedd mawrion ar ororau Ffrainc, ac o ganlyniad yn peri pryder, ac anesmwythder parâus, i'r wlad hon.

Yn y flwyddyn rag-grybwylledig ymddangosodd llynges fechan o Ffrancod ar for-gyffiniau Sir Benfro, yr hon a diriodd mewn lle a elwid Pencaer, ger llaw Abergwaun, ar y 22ain o Chwefror. Nid ydyw yn hysbys hyd y dydd hwn pa beth ydoedd tarddiad na dyben yr ymosodiad dyeithr yma. Ymddengys mae llu o ddrwg-weithredwyr oeddynt, wedi eu dilladu yn ngwisgoedd milwraidd byddinoedd Ffrainc. Ond pa un a oeddynt wedi eu danfon tan awdurdod a gorchymyn y llywodraeth, neu nid oeddynt, sydd yn guddiedig eto. Ond pa fodd bynag am hyny, parodd yr amgylchiad gythrwfl dirfawr drwy yr holl dywysogaeth, er na lwyddodd i lwfrâu, eithr yn hytrach i ennyn gwroldeb greddfol trigolion y wlad. Brysient ynghyd yn finteioedd o'r holl barthau, pob un yn ymarfogi ei hun a'r offeryn nesaf at law, ac yr ydoedd yr holl wlad yn dangos drych gwrthwyneb i'r hyn a ddarlunir gan