Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Bywyd y Parch. Ebenezer Richard.djvu/16

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

y prophwyd, "Y bobloedd yn troi eu sychau yn gleddyfau, a'u pladuriau yn waywffyn." Trwy hyn, ynghyd a rhyw ddychryn ac annhrefn rhyfeddol a syrthiodd arnynt, ymostyngasant yn fuan, a rhoddasant eu harfau i lawr o flaen y Prif-Raglaw, Arglwydd Cawdor. Yr oedd yn naturiol i amgylchiad o'r fath hwn wneuthur argraff dwfn ar feddwl mor fywiog a theimladwy ag eiddo gwrthddrych y cofiant hwn; ac, i osod allan ei deimladau ar yr achlysur, cyfansoddodd gân o ddiolchgarwch, yr hon a argraffwyd yn yr un flwyddyn. Er nad oes nemawr o gywreinrwydd prydyddawl i'w ganfod yn y pennillion hyn, eto dangosant fwy o addfedrwydd meddwl, a difrifoldeb ystyriaeth, nag a gyfarfyddir a hwy yn gyffredin mewn "bachgenyn pymtheg mlwydd oed."

Gan eu bod yn awr allan o'r argraff er ys llawer o flynyddau, ac yn anadnabyddus y mae'n debyg i'r rhan fwyaf o'n darllenwyr, efallai hoffai rhai i weled engraifft o honynt yma.

'Ry'm ni yma am wneud coffa
Am yr amser tywyll du,
Pan yn safn anferth angeu,
Y bu miloedd o honom ni;
Yno'n hongian uwch ein beddau,
Heb un gobaith o ryddhâd,
Wedi'n dal gan ofnau creulon,
Byddai i ni golli'n gwa'd.

Yr oedd angeu gwedi dyfod,
A'n hamgylchu o bob tu,
O'mewn a maes, yn heol a'r mynydd,
Gwaeddi obry, gwaeddi fry;
R'oedd ein llefau a'n hochneidiau
Yn ofnadwy ac yn drist,
Yn gwaeddi allan, O na buasem
Oll yn credu yn Iesu Grist.