chwaith.' Na ddigalonwch, fy, machgen anwyl, ond ymostyngwch i drefniad doeth ein Duw cyfammodol, yr hwn a wna i bob peth yn y diwedd gydweithio er daioni.' Mewn amynedd meddiannwch eich henaid,' oblegid y mae yn rhaid i ni wrth amynedd, rhag i ni dynu'r ffrwyth cyn y byddo yn addfed, ac fel hyn niweidio yn lle cynnorthwyo ein hunain, gan gadw yn wastad o flaen y meddwl ddywediad y parchus Mr. Gurnal, Fod gwell i ni adael i Dduw dori (carve) drosom, oblegid, bob amser y byddom yn tori drosom ein hunain, yr ydym yn tori ein dwylaw a'n bysedd;' am hyny cyflwynwch eich hunan yn feunyddiol i'w ewyllys tadol ef.
FY ANWYL EDWARD, ***** Yr wyf yn gobeithio y bydd i chwi eich dau gadw mewn cof y dywediad dwyfol hwnw, Canys fy anrhydeddwyr a anrhydeddaf fi, a'm dirmygwyr a ddirmygir;' a chedwch yn gyson mewn golwg yr hyn sydd wedi ei lefaru mor ogoneddus am ddoethineb, hocdl sydd yn ei llaw ddehau hi, ac yn ei llaw aswy y mae cyfoeth a gogoniant. Ei ffyrdd hi sydd ffyrdd hyfrydwch, a'i llwybrau hi ydynt heddwch. Pren bywyd yw hi i'r neb a ymaflo ynddi, a gwyn ei fyd a ddalio ei afael arni hi.' Os gofynwch pa beth yw y ddoethineb hon, mynegir i chwi yn y gyfrol ddwyfol, 'Ac wrth ddyn efe a ddywedodd, Wele ofn yr Arglwydd, hyny ydyw doethineb, a chilio oddiwrth ddrwg sydd ddeall.' Sylwch ar yr ymadrodd, hyny ydyw doethineb—hyny yw'r doethineb mwyaf pur, ardderchog, a gogoneddus, hyny yw bod yn ddoeth i iachawdwr-