ioch, a thuag at y gwahanol raddau mewn cymdeithas (classes of society) â pha rai y byddwch yn ymwneud.
Rhaid i mi adael heibio yn bresennol, ond yr wyf yn cwbl fwriadu, os arbedir fy mywyd, i ychwanegu amryw gyngorion eraill[1] at y rhai uchod; a gobeithio y bydd i Ysbryd Duw, gwaith yr hwn yw ysgrifenu ar y galon, i argraffu y pethau hyn ar eich calon chwi; a chan fabwysiadu geiriau Solomon, dywedaf, Fy mab, gwrando addysg dy dad,' &c.
FY ANWYL HENRY,
Daeth eich llythyr yn ddiogel i law boreu dydd Iau, ac O'r fath newydd dedwydd i'ch rhieni pryderus ac anesmwyth, sef, am eich taith ddiogel a llwyddiannus, a'ch dyfodiad amserol i'r ddinas fawr. Mae'n debyg i'r siomedigaeth fechan a gyfarfuoch ar y ffordd, i droi allan yn y diwedd er mwy o gysur i chwi. Mae hyn yn dangos y fath greaduriaid byr eu golwg ydym ni, yn cael ein temtio yn fynych i ddywedyd, Yn fy erbyn i y mae hyn oll,' pan y mae Duw trwy'r amgylchiadau mwyaf croes yn dwyn i ben waredigaethau dedwyddaf. Cyngorwn i chwi sylwi er eich myfyriaeth a'ch cynnaliaeth beunyddiol, y geiriau adfywiol a chalonogol hyny o eiddo'r Gwaredwr wrth Pedr, Y peth yr ydwyf fi yn ei wneuthur, ni wyddost ti yr awr hon, eithr ti a gei wybod ar ol hyn;' am hyny, fy anwyl Henry, yr wyf yn gobeithio y galluogir chwi i ymddiried eich hun yn ei ddwylaw ef, yr hwn a rasol addawodd, Ni'th roddaf i fynu, ac ni'th lwyr adawaf
- ↑ Y rhai ni ddaethant byth i law.