Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Bywyd y Parch. Ebenezer Richard.djvu/146

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

cysuron eraill, fel yr ydym ni oll yn bresennol; i Dduw y byddo'r clod.

Yma y canlyn ychydig gyngorion, yn deilliaw o galon, lawn o ddymuniadau da am eich llwyddiant, a gobeithio y derbyniwch hwynt fel y cyfryw.

1. Nac esgeuluswch byth i gyfarch mewn gweddi yr Hollalluog Dduw yn gywir, yn wresog, yn gyson, ac yn barhaus, holl ddyddiau eich bywyd.

2. Gwnewch gydwybod o fod yn ddiwyd gyda holl foddion gras fel sefydliadau dwyfol, pa un a'i dirgel a'i teuluaidd, cymdeithasol neu gyhoedd.

3. Prynwch eich hamser, a llenwch ef â rhyw orchwyl defnyddiol; ac na oddefwch byth i bechod, diogi, na chysgu, eich hamddifadu o'r gronyn lleiaf o'r trysor gwerthfawr hwn.

4. Byddwch bob amser yn ofalus iawn pa gyfeillach a gadwoch, pa leoedd a fynychoch, a pha eiriau a lefaroch.

5. Yn nesaf at achos diogelwch a llwyddiant eich enaid anfarwol, telwch y sylw manylaf i'ch galwedigaeth, ac amcenwch yn wastad i gyrhaedd, nid canoligrwydd (mediocrity), ond rhagoriaeth ynddi, gan ddal yn eich meddwl yn gyson fod hyn yn gyrhaeddadwy, nid trwy wastraffu symiau mawrion o arian, na thrwy dreulio rhyw lawer iawn o'ch hamser i redeg dros yr ysbyttai (hospitals,) ond yn hytrach trwy ddyfalwch, ac ymroad dibaid at athrawiaeth ac ymarferiad (theory and practice) eich galwedigaeth.

6. Ymlynwch gyda'r gafaelgarwch mwyaf at fanylrwydd yn mhob ystyr; byddwch fanwl at eich addewidion, eich trefniadau, eich hymrwymiadau, yn y teulu lle yr ydych yn cyfanneddu, yn y perthynasau a ffurf-