mi fod mor ryfygus! na, dymunwn yn hytrach ddywedyd gyda Dafydd, Pa beth ydwyf fi, O Arglwydd Dduw, a pha beth yw tŷ fy nhad, fel y dygid fi hyd yma?' Mwy llawenydd nid oes genyf, na gweled un o'm hiliogaeth wael i yn cael ei osod yn ngwasanaeth y cyssegr; felly, fy anwyl blentyn, gellwch fod yn hyderus y bydd i mi gymeryd pob cam angenrheidiol yn yr achos pwysig hwn, heb un oediad pechadurus ar y naill law, nac, yr wy'n gobeithio, un byrbwylldra gwyllt ar y llaw arall, oblegid y mae'n rhaid i ni droedio yma gyda phwyll a gwyliadwriaeth, gan wybod 'na frysia yr hwn a gredo.' Yn y cyfamser, rhaid i mi erfyn arnoch i fod yn ofalus i ledu y peth yn gydwybodol ac yn gyson o flaen Duw mewn gweddi.
Ydwyf, fy anwyl Henry,
Eich gwir gariadus dad,
EBENEZER RICHARD
Yn mhen ychydig fisoedd ar ol dyddiad y llythyr hwn, aeth ei ail fab hefyd i Lundain, a derbyniwyd ef i Athrofa Highbury (Highbury College,) gerllaw y brif-ddinas, lle y bu yn preswylio am bedair blynedd. O hyn allan, wedi yr hysbysiadau a wnaed uchod, ni bydd angenrheidrwydd gwneuthur sylwadau neillduol ar y gwahanol bigion o lythyrau a ddanfonodd at ei ddau fab yn ystod y flwyddyn hon.
FY ANWYL EDWARD,
Gan fod cyfleusdra i anfon ychydig linellau atoch, yr wyf yn cymeryd mantais o hono, gan obeithio y derbyniwch hwynt mewn mwynhad o'ch iechyd a'ch