byddaf fy hunan yn aml, A phwy sy ddigonol i'r pethau hyn?' Eto, er hyn i gyd, mae gwir weinidog neu was Crist yn meddu gras ei Feistr, wedi derbyn galwad ei Feistr, yn gwneuthur gwaith ei Feistr, yn dwyn iau ei Feistr, yn amcanu at ogoniant ei Feistr, ac yn y canlyniad fe dderbyn wobr ei Feistr. Yr ydych yn sylwi yn niwedd eich llythyr fod genych resymau ag sydd yn peri i chwi gredu fod eich cymhelliad i'r gwaith o Dduw. Byddwch sicr o hyny, yna nid rhaid ofni oddiyma i'r farn.
Gan wir ddymuno a thaer weddio am i chwi fod tan ddwyfol gyfarwyddyd yn mhob un o'r achosion pwysig uchod, ond yn enwedigol y trydydd, y terfynaf. Yr eiddoch yn ddiffuant ynddo Ef, yr hwn a fu farw ac a gyfododd drachefn,
EBENEZER RICHARD.
AT WRAIG WEDDW AR FARWOLAETH EI GWR.
FY ANWYL CHWAER,
Yr wyf yn teimlo tuedd ynof i ysgrifenu atoch yn eich tywydd presennol; ac eto, wedi dechreu, nis gwn pa beth yn iawn, na pha fodd, byddai goreu ysgrifenu. O mor dda yw gair yn ei amser!' Fe roddes yr Arglwydd Dduw i'r Cyfryngwrdafod y dysgedig, i fedru mewn pryd lefaru gair wrth y diffygiol; ac fe all ef roddi i minau bin yr ysgrifenydd parod, tra byddwyf yn amcanu anfon gair o ddyddanwch at un o ferched cystudd.
Wrth yr hanesion a dderbyniais, tebygwn fod eich diwrnod yn debyg i'r un a ddisgrifir gan y prophwyd Zechariah, xiv. 7. Ond bydd un diwrnod, hwnw a adwaenir gan yr Arglwydd; nid dydd ac nid nos, ond