Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Bywyd y Parch. Ebenezer Richard.djvu/170

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Duw dâl am boen yr ymweliad: byddai yn well bod heb ymweliad na bod yr ymwelwr heb ei neges. 4. Cyfaddasrwydd amser yr ymweliad, wedi rhai dyddiau y dyddiau a dreulir o Dregaron i'r Bala, ac o'r Bala i'r Beaumaris, &c. 5. Manylrwydd yr ymweliad— i bob dinas: Bangor, Llanfair, Llandegfan, Llangoed, Llanddona, Pen-y-garnedd, &c. 6. Natur yr ymweliad—pregethu gair yr Arglwydd. Efe ydyw awdwr y Gair, efe ydyw testun y Gair, ac efe sydd yn ei lwyddo. Yn 7fed. Dyben yr ymweliad-i edrych pa fodd y maent hwy; 1. A ydynt yn aros yn y ffydd. 2. A oes dim cyfeiliornadau yn dyfod i mewn. 3. A oes dim ymraniadau yn eu plith. 4. A ydynt yn cynnyddu mewn gras. 5. Pa un ai cybyddlyd ai haelionus, &c. Edrychwch yn ddyfal ar bob llaw: mae yma waith mawr yn yr eglwysi ac yn y byd hefyd. Odeuwch a chynnorthwywch ni.

Rhoddwch fy ngwasanaeth at Mrs. Richard, a'r plant, a chwithau, yn nghyd ac yn ogyfuwch.

Danfonasom ddau o'r brodyr, T. O. a J. J., i Dalgarth. Yr oedd yn ofidus iawn genym nad oedd neb o Fon yn Aberystwyth. Er mwyn cariad, na roddwch eich cyhoeddiad wrth ddyfod o'r Bala, ond ar eich dychweliad o Fon.

Ydwyf eich ufudd a'ch annheilyngaf gyd-was,

RICHARD LLOYD,

Mai 16, 1832.
Beaumaris yn Mon."