PEN. XIII.
Afiechyd trwm Mr. R. yn niwedd y flwyddyn 1832—Llythyr ato ef oddiwrth y Parch. Thomas Evans ar yr achlysur—Llythyr Mr. R. at ei fab hynaf-=Ei drydydd ymweliad i'r brif-ddinas—Llythyr at Mr. a Mrs. Jones, Llanbedr-lythyrau at ei feibion—Llythyr oddiwrth y Parch. H. Howells—Un arall oddiwrth y Parch. Henry Rees.
ODDEUTU diwedd y flwyddyn 1832, goddiweddwyd ef gan afiechyd trwm, yr hwn a'i caethiwodd am wythnosau lawer. Yr oedd arwyddion o'r anhwyldeb yma wedi dechreu ymddangos er ys amryw flynyddau, ac yn parhau o hyd i gynnyddu yn raddol, nes o'r diwedd iddo gyrhaedd y fath gryfder, fel y bu gorfod ar yr achlysur presennol i ddefnyddio y moddion mwyaf llym a chedyrn er achub ei fywyd. Ei glefyd ydoedd fath o hun-glwyf (lethargy) trwm, yr hwn a'i gorthrechai fel gwr arfog, fel nad oedd posibl ei wrthwynebu. Yr oedd yn barhaus yn peri iddo ofid dirfawr, trwy ei anhwylysu i raddau helaeth i gyflawni ei wahanol ddyledswyddau. Mor adwythig ydoedd ei glefyd wedi myned yn y pwl hon, fel y soddodd yn ddwfn mewn math o drymgwsg angerddol, o ba un nis gellir dywedyd iddo ddeffro yn iawn am amryw ddiwrnodau. Dygwyddodd trwy drefniad grasol rhagluniaeth (i grybwyll ei eiriau ei hun) fod fy anwyl Edward gartref ar yr amser, a bu o wasanaeth annrhaethol i mi yn llaw Duw, oblegid gwnaeth i mi bob peth angenrheidiol fel meddyg; a, thrwy fendith yr