galar cymedrol yn rhinwedd, er bod galar anghymedrol yn drosedd: nis buoch erioed oddiwrtho yn cartrefu, nis gwelsoch y tŷ erioed heb eich tad; nid yn unig fe ganiatawyd iddo gael byw i orphen eich magu chwi, ond magwyd eich rhai bychain chwithau ar ei liniau ef hefyd, fel plant Machir ar liniau Joseph.
Collais inau hen gyfaill cywir, cyson, a ffyddlon. Yr ydwyf yn ei alw fy hen gyfaill, am ei fod yn un o'r rhai cyntaf a feddwn yn mlaen Sir Aberteifi; yr wyf yn ei alw yn gywir, am na chefais ef erioed yn anghywir; yr wyf yn ei alw yn gyfaill cyson, oblegid cefais ef bob amser lle y gadewais ef, yr hyn sydd yn ormod i mi ddywedyd am lawer a'u galwent eu hunain yn gyfeillion i mi; yr wyf yn ei alw yn gyfaill ffyddlon, am nas gwelais ef erioed yn hyd y pum-mlyneddar-hugain yn fwy siriol, caredig, a brawdol, na'r tro diweddaf. Ond och! collasom ef; coll'soch chwi briod a thad, a chollais inau gyfaill; eto na thristawn fel rhai heb obaith; cawsoch ef yn hir, yr oedd o gryfder yr wyf yn tybied wedi cyrhaedd pedwar ugain; cawsoch of hefyd yn hynod ddifethiant-mae lluaws mawr cyn ei oedran ef yn fyddar, yn ddall, yn gloff, ïe, yn orweddiog am flynyddau, a llaw drom iawn i gael ganddynt, ïe, llawer iawn o hen bobl dda a aethant cyn myned o'r byd agos yn gwbl ddisynwyr::-oddiwrth hyn oll i'ch gwaredodd yr Arglwydd chwi; nis gallasech ddysgwyl ei gael lawer yn hwy, a phe cawsech, nis gallasech ddysgwyl llawer o gysur, oblegid dyfodiad dyddiau blin arno. Yn awr, Mrs. Jenkins, ymdawelwch, a chlodforwch Dduw am eich bod er ys llawer blwyddyn bellach wedi adnabod Priod a ddaw gyda chwi, nid hyd angeu, ond efe a'ch tywys trwy angeu.