Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Bywyd y Parch. Ebenezer Richard.djvu/20

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

tynt hwy." Byddai efe ei hun yn arferol, yn ol llaw, o rybuddio ereill rhag coleddi dymuniadau rhyfygus, am ryw argyhoeddiad hynod ac echryslon. "Gwnaethum i felly," ebe fe," a chefais fy neisyfiad yn wir, ond dyoddefais tano loesion ac arteithiau, na ewllysiwn weled ci na sarph byth yn dyoddef eu bath.”

Ar ol i'r rhyferthwy hwn fyned trosodd, dychwelodd drachefn i Bryn-henllan yn ddŷn newydd, a buan y daeth hynodrwydd ei ddoniau a'i dduwioldeb yn amlwg i bawb. Gellir dwyn i mewn yma yr hyn a ddywed cyfaill caredig, mewn llythyr a dderbyniasom oddi wrtho. "Yr amser cyntaf yr adnabyddais eich tad oedd pan y preswyliai yn Dinas (neu Bryn-henllan), ac oddi ar yr hyn a adroddodd yno mewn cymdeithas neillduol, am ei brofiad crefyddol, teimlais byth wedi hyny y parch mwyaf diffuant iddo fel Cristion gwirioneddol. Cyfarfyddais ag ef yn fynych ar ol hyny yn eglwys Nevern, lle y cyrchai efe yn aml, yn enwedig suliau y cymundeb. Yr wyf yn cofio un tro neillduol, pan wrth fwrdd yr Arglwydd yno, fod ei feddwl wedi ei ddyrchafu mewn modd hynod wrth syllu ar farwolaeth ei Iachawdwr. Yr wyf yn cofio y geiriau a ganai efe, gan eu mynychu drachefn a thrachefn, {{center block|

"Swm ein dyled mawr fe'i talodd,
Ac a groesodd filiau'r nef."

Wedi hyn byddai arferol ar gais cyfeillion crefyddol y lle o ddechreu yr odfaon trwy ddarllen a gweddio o flaen rhai o'r gweinidogion dyeithr a ymwelent a'r eglwys yno, ac mor hynod mewn nerth ac ysbrydolrwydd oedd ei ymdrechiadau fel y synai pawb ar a'i clywsent ef. "Yr wyf yn cofio,"