Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Bywyd y Parch. Ebenezer Richard.djvu/19

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ond nid yn hir ar ol hyn, a thra yr oedd yn cartrefu yn yr un lle, daeth i ben yr amgylchiad mwyaf nodedig a difrifol yn ei holl fywyd, pa un a'i ystyriwn hynodrwydd ei natur, neu helaethrwydd ei ganlyniadau. Yr ydym yn cyfeirio yma at yr argyhoeddiad dygn ac anarferol a ruthrodd oddeutu yr amser hwn fel tymhestl danllyd tros ei ysbryd, nes iddo yn mron ddifa ei nerth a'i synwyr. Nid yw yr achos enwedigol o'r cyffroad hwn yn adnabyddus i ni yn bresenol, ond pa fodd bynag am hyny, mor llym a dychrynllyd ydoedd, fel y gorfu arno roddi i fynu ei alwedigaeth, a dychwelyd adref at ei rieni, lle y bu am ryw gymaint o amser, yn crwydro ar ymylau anobaith. Mewn perthynas i'w deimladau ar y noswaith olaf o'r gwewyr poenus hwn, dywed mewn un o'i ysgrifenadau boreuol, nawr ger ein bron.

Gorphenaf laf, 1801. —Y noswaith hon oedd y fwyaf ofnadwy yn fy mywyd, ond yr wyf yn gobeithio mae ynddi hi y dechreuodd dydd na bydd terfyn arno byth." Bu am dymmor yn ymdrechu mewn ing dirfawr i ddystewi gofynion deddf Duw, trwy osod i fynu ei gyfiawnder ei hun, mewn ymprydiau, gweddiau, a phenydiau poenus, ddydd a nos. I'r dyben o gyflawni hyn yn fwy perffaith, ymneillduai o gymdeithas ei gyfeillion, a chauai ei hun i fynu yn ei ystafell, neu yn addol-dŷ y lle. Ond ar y noswaith y cyfeiria efe ati yn y sylw-nod uchod, torodd y wawr ar ei enaid, trwy iddo gael golwg ddisymmwth o drefn yr efengyl yn Heb. vii. 25. "Am hyny efe a ddichon hefyd yn gwbl iachâu yrhai trwyddo ef sydd yn dyfod at Dduw, gan ei fod ef yn byw bob amser i eiriol dros-