Yr oeddwn yn teimlo yn ddedwydd ac yn ddiolchgar iawn i ddeall, fy anwyl Henry, i chwi gael eich galluogi i fyned trwy wasanaeth eich Sabbath gyda chymaint o gysur i chwi eich hun; a chan fy mod wedi cael rhyw gymaint o brofiad yn y pethau hyn am bumtheg-ar-hugain o flynyddau, efallai y goddefwch i mi wneuthur un sylw fel hyn, sef ein bod yn gyffredin yn teimlo mwy o foddlonrwydd i ni ein hunain, ac y mae yn debyg yn fwy bendithiol i eraill, wrth fyned trwy yr odfaon hyny ag ydynt wedi costio i ni fwyaf o bryder a gofid meddwl, a mwyaf o weddiau hefyd, na'r rhai hyny sydd wedi achosi llai o drallod. O'r fath briodoldeb sydd yn ngeiriau Hannah dduwiol, pan y dygodd ei hanwyl Samuel i Eli yn Siloh, i fod yn gyssegredig i'r Arglwydd,—‘Am y bachgen hwn y gweddiais, a'r Arglwydd a roddodd i mi fy nymuniad a ddymunais ganddo! O na fyddai genym ninau fel gweinidogion fwy o'r plant gweddi yma, fel y gallem yn fynychach ddywedyd mewn gwirionedd, Am y bregeth hon y gweddiais; am yr ordinhad hon, am y gwasanaeth hwn, am y gorchwyl hwn y gweddiais!' Fy anwyl, anwyl Henry, bydded fod achos eich swydd yn sefyll goruwch pob gofal arall yn eich ystyriaeth, a bydded i orchwyl penaf eich galwedigaeth ddifrifol gael y blaenoriaeth o hyd, sef i ennill eneidiau; 'a'r neb a ennillo eneidiau sydd ddoeth.
Fy Anwyl Edward
Derbyniasom eich llythyr yr wythnos ddiweddaf, a llawenychodd ni yn fawr iawn ar amryw gyfrifon. Yr oedd yn hoff genym ganfod y pryder, y llawenydd, a'r diolchgarwch a ddangoswch wrth dderbyn y newydd am ein dyfodiad yn ddiogel adref. Mae yn sirioli