Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Bywyd y Parch. Ebenezer Richard.djvu/208

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ogoniant, am hyny byddwch ofalus i offrymu y clod iddo ef ar eich gliniau bob boreu a hwyr, gan gofio yn wastadol mae eiddo chwi yw y llafur, ac eiddo yntau y llwyddiant a'r clod. Ar ol rhai o'ch odfaon mwyaf cysurus a llwyddiannus, bydd y diafol yn barod i guro eich cefn, a dywedyd, Well done, Henry, pwy a wnaeth yn well na hyn erioed?' Ond yr ydwyf yn gobeithio ac yn gweddio y dysgir chwi fel na byddoch heb wybod ei ddichellion ef. Yr ydych yn ddiogel, fy anwyl blentyn, cyhyd ag y cynnalio Duw chwi, a dim yn hwy, oblegid 'dy holl saint ydynt yn dy law, a hwy a ymlynant wrth dy draed, pob un a dderbyn o'th eiriau.' Mewn perthynas i'r achos y gofynwch fy ngyngor i yn ei gylch, nid oes genyf ond dywedyd, bob tro y bu i mi fedyddio dynion mewn cyflawn oed, na cheisiais i gyffes gyhoeddus gan un o honynt, yr hyn a ystyriwn i yn afreidiol, oblegid rhaid fod yr eglwys wedi cael ei boddloni yn eu cylch cyn iddynt gael caniatâd i ddyfod yn mlaen, yr hyn a ddylech bob amser ei grybwyll ar y pryd. Yr ydwyf yn ei ystyried hefyd yn beth dideimlad, yn enwedig os benywaid fydd yn cynnyg eu hunain, i ofyn tystiolaeth yn gyhoeddus o'u ffydd, oblegid yn eu gwaith yn ymostwng i'r ordin- had y maent mewn effaith yn rhoddi y cyfryw dyst- iolaeth. Ond cyngorwn chwi i fỳnu gwybod pa beth yw arferiad gyffredin gweinidogion Llundain. Yn awr mi derfynaf, trwy wneuthur yr hyn yr wyf yn ei wneuthur yn gyson ar gareg yr aelwyd, Henry bach, a hyny yw eich cyflwyno chwi eich dau i Dduw sydd yn cadw cyfammod ac yn cyflawni ei addewid.

Ydwyf, fy anwyl Henry,
Eich tad cariadus,
EBENEZER RICHARD.'