Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Bywyd y Parch. Ebenezer Richard.djvu/22

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PEN. II.

Dechreuad ei weinidogaeth gyhoeddus—Ei destun, a'i bregeth gyntaf — Ei holiad ef a'i frawd
gan y Parch. Mr. Jones, Langan, &c.—Pigion o'i ddydd-lyfrau am y blynyddau 1805 a 1806.

ODDIWRTH yr hyn a adroddwyd am dano yn niwedd y bennod flaenorol, gall y darllenydd ganfod ei fod eisioes wedi ei nodi gan ereill fel un tebyg i fod yn gymhwys i sefyllfa gyhoeddus yn yr eglwys. Pell iawn oedd efe o fradychu unrhyw awydd wancus i gymeryd "yr anrhydedd hwn iddo ei hun." Ond oherwydd yr arwyddion amlwg o addasrwydd a ganfyddid ynddo, annogwyd ef yn daer gan henuriaid yr eglwys i ddechreu defnyddio ei ddawn yn ngwaith y weinidogaeth, ac wedi hir wrthsefyll pob cymhelliad, mewn ofn rhag iddo ddigio yr Arglwydd, cyd-syniodd a'u cais.

Dedwydd fyddai i achos crefydd pe byddai y cyfryw ymddygiad o bob tu yn fwy cyffredin-y pregethwr ieuanc yn dangos yr un gwylder a gostyngeiddrwydd, a'r henuriaid eglwysig yn meddu ac yn medru ymarfer yr un " ysbryd barn."

Y tro cyntaf y pregethodd Mr. Richard, oedd mewn man a elwir Dinas, yn agos i Bryn-henllan, lle y preswyliai efe y pryd hwnw. Ymddengys i'r Arglwydd arwyddo ei foddlonrwydd, mewn modd neillduol y waith hon, trwy ddisgleirio yn hynod arno ef, ac ar y gwrandawyr.

Ei destun ar yr achlysur hwn oedd Rhuf. viii. 34.— "Crist yw yr hwn a fu farw." Y mae yn foddlon