Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Bywyd y Parch. Ebenezer Richard.djvu/23

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

rwydd mawr genym fod nodau y bregeth hon ar gael yn mysg ei bapurau, à chan yr ewyllysiai llawer yn ddiau eu gweled, rhoddwn hi yma fel y mae ar ei gôflyfr, a gellir edrych arni fel esiampl tra chywir o'i ddull cyffredin ef, o ysgrifenu ei bregethau.

"Rhuf. viii. 34, Crist yw yr hwn a fu farw.'

"O ddechreu'r 33 adnod hyd ddiwedd y bennod y ceir Corph Difinyddiaeth; ond yma, y mae enwi person, a dweyd am dano. Y person yw Crist-yr hyn a ddywedir am dano yw, iddo farw.

"I. Crist Eneiniog y Tad i'r 3 swydd.

"II. Pa'm y bu efe farw, Dan. ix. 26.

"III. Pa fodd y bu efe farw, neu pa fath farwolaeth oedd ei farwolaeth.

IV. Y dybenion, neu'r canlyniadau bendigedig, o'i farwolaeth.

"I.—Crist yw, oblegid ei eneinio i'r 3 swydd; P. Deut. xviii. 15; B. Sal. ii. 6; Off. Heb. vi. 20; yr hyn beth ni wnawd ac un arall erioed. Cymododd y B. a'r Off. Zec. vi. 13.

"II.-Pan y bu efe farw yr oedd yn rhaid iddo farw oblegid y 3 pheth canlynol:

"1af. Hyn oedd un o ammodau drutaf y Cyfammod Newydd, ac nid yw cyfammod ddim oni chyfammod. Zec. ix. 11.

"2il. Cyflawni'r prophwydoliaethau a gerddodd o'r blaen. Esa. liii. 7, 12; Luc xxiv. 46.

3ydd. I gyfatteboli i'r holl gysgodau aberthol o hono-lladd yr oen pasg, nid ei glwyfo yn unig oeddit. Ioan i. 29; 1 Cor. v. 7. Crist a aberthwyd, neu ar ymyl y ddalen, a laddwyd trosom ni.

"III.—Pa fodd y bu efe farw, neu pa fath farwolaeth oedd ei farwolaeth ef.